Mae yna bryderon am ddiogelwch y to yn y stadiwm fydd yn cynnal yr athletau yng Ngemau Olympaidd Rio de Janeiro yn 2016.
Mae’r awdurdodau ym Mrasil wedi dweud bod angen gwneud gwaith atgyweirio ar strwythur y stadiwm cyn y bydd ymwelwyr yn cael mynd i mewn.
Fe fydd Stadiwm Joao Havelange, gafodd ei chodi chwe blynedd yn ôl, yn gartref i’r athletau yn ystod yr haf.
Dywedodd Maer Rio de Janeiro, Eduardo Paes: “Fe wnes i ofyn a oedd y problemau hyn yn peri risg i’r gwylwyr ac fe ddywedwyd ‘ydyn’, yn dibynnu ar ffactorau fel cyflymdra’r gwynt a thymheredd.
“Mae yna risg, felly fe benderfynais i gau’r stadiwm ar unwaith.
“Bydd y stadiwm ar gau am gyfnod amhenodol tan fod ateb yn cael ei ddarganfod.
“Os yw’n cymryd mis, yna fe fydd ar gau am fis. Os yw’n cymryd blwyddyn, fe fydd ar gau am flwyddyn.”