Mae Jonathan Davies yn mynd i chwarae ei ganfed gêm dros y Sgarlets ar ‘Ddydd y Farn’.

Mae’r pedwar rhanbarth yn mynd ben-ben yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn ac mae canolwr y Scarlets a Chymru yn gobeithio bydd llwyddiant y tim cenedlaethol yn denu cefnogwyr i fynychu’r ddwy gêm.

“Mae’n amser i ddangos beth mae’r rhanbarthau yn gallu gwneud,” meddai wrth Golwg360.

“Mae’n bwysig er mwyn cael mwy o gefnogwyr i ddod i Barc y Scarlets yn y dyfodol.

“Bydd chwarae fy 100fed gem i’r tîm rwyf wedi cefnogi ers yn ifanc iawn yn sbesial iawn.

“Ar ôl gorffen yn bumed yn y gynghrair yn y ddau dymor diwethaf rydym yn gwybod beth ni angen gwneud eleni. Mae’r garfan i gyd yn barod i geisio gorffen y tymor ar nodyn da.”

Taclo ffyrnig

Yn dychwelyd i’r Dreigiau penwythnos yma, yn dilyn cyfnod hir o anaf, fydd y blaenasgellwr Dan Lydiate. Ni chwaraeodd Lydiate, sef Chwaraewr Gorau’r Chwe Gwlad 2012, yn y gystadleuaeth eleni ond mae ei daclo ffyrnig yn golygu mai teimladau cymysg sydd gan Davies am ei wynebu unwaith eto:

“Sai’n edrych ymlaen at gael fy nhaclo gan Dan. Mae wedi bod yn gweithio’n galed i fod yn barod a rwyn siwr ei fod yn edrych ymlaen i chwarae.”

Dydd y Farn

Ar ôl i’r Scarlets a’r Dreigiau gwrdd am 2.30 bydd y Gleision a’r Gweilch yn chwarae am 5.15.

Bydd disgwyl i chwaraewyr fel Leigh Halfpenny, George North, Andrew Coombs ac Adam Jones gymryd rhan ar y diwrnod, ond mae’n bosib mai’r frwydr gyntaf rhwng y ddau flaenasgellwr, Sam Warburton a Justin Tipuric, fydd yr atyniad mwyaf i’r cefnogwyr.

Mae gobaith i’r diwrnod cael ei gynnal yn y Stadiwm yn flynyddol o hyn ymlaen.

Stori: Owain Gruffudd