Dan Biggar
Mae maswr y Gweilch a Chymru, Dan Biggar wedi arwyddo cytundeb newydd gyda’r Gweilch, fydd yn ei gadw yn y Liberty tan ddiwedd tymor 2015/16.
Roedd ei gytundeb blaenorol yn dod i ben ar ddiwedd y tymor hwn.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf i’r rhanbarth yn 2008 yn y fuddugoliaeth dros y Saraseniaid yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghwpan EDF, ac mae e bellach yn brif sgoriwr y Gweilch, gyda 1,206 o bwyntiau.
Biggar oedd prif sgoriwr y Gynghrair ym mhob un o’r tri thymor diwethaf, ac fe oedd y chwaraewr ieuengaf i chwarae mewn 100 o gemau i’r Gweilch.
Mae e wedi cynrychioli Cymru 16 o weithiau, ac fe chwaraeodd ran flaenllaw ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni wrth i Gymru gipio’r Gwpan.
Dywedodd Dan Biggar: “Mae hwn yn sefydliad sydd bob amser wedi bod yn dda i fi ac wedi fy nghefnogi, felly mae’n grêt fy mod i’n gallu cydnabod hynny drwy roi fy nyfodol i’r rhanbarth.
“Mae hi bob amser yn braf sortio pethau’n derfynol a nawr dwi wedi’i arwyddo fe, galla i ganolbwyntio ar yr wythnosau i ddod a helpu’r tîm i sicrhau lle yn y rownd ail-gyfle heb unrhyw ymyriadau.
“Roedd y Gweilch am ddal eu gafael arna i ac ro’n i am aros felly mater o gytuno ar ychydig o bethau oedd hi. Nid dim ond arian, ond roedd yna bethau eraill i’w hystyried hefyd.
Dywedodd rheolwr gweithrediadau’r Gweilch, Andy Lloyd: “Mae’r newyddion bod Dan wedi arwyddo cytundeb arall am dair blynedd yn hwb enfawr i’r Gweilch, gan edrych tua diwedd y tymor a thu hwnt i hynny i ddyfodol y rhanbarth.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithrediadau’r Gweilch, Andrew Hore: “Mae’n newyddion gwych ein bod ni wedi gallu cadw Dan am dair blynedd arall. Mae’n bwysig, os ydyn ni am gynrychioli’r gymuned leol fod gyda ni ddoniau ifanc, lleol fel Dan yn gwisgo’r crys fel y gall plant ddyheu am ddilyn eu hôl traed yn ystod eu datblygiad.”
Biggar yw’r nawfed chwaraewr i arwyddo cytundeb newydd y tymor hwn.