Southport 0–2 Casnewydd
Caeodd Casnewydd y bwlch ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square gyda buddugoliaeth yn erbyn Southport yn Stadiwm Gymunedol Merseyrail nos Fawrth.
Sgoriodd Aaron O’Connor a Christian Jolley yn yr hanner cyntaf i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r tîm o dde Cymru, wrth i’r tîm sydd ar y brig, Kidderminster, lithro gyda gêm gyfartal yn erbyn Woking.
Rhoddodd O’Connor Gasnewydd ar y blaen wedi dim ond deg munud ac roedd hi’n ddwy ddeg munud cyn yr egwyl wedi i Jolley rwydo croesiad Scott Donnolly.
Di sgôr oedd yr ail hanner ond roedd Casnewydd wedi gwneud digon i sicrhau’r tri phwynt yn yr hanner cyntaf.
Mae tîm Justin Edinburgh yn aros yn bedwerydd er gwaethaf y fuddugoliaeth ond yn cau’r bwlch rhyngddynt a Kidderminster i naw gyda phedair gêm wrth gefn. Daw’r gyntaf o’r rheiny oddi cartref yn Gateshead nos Iau.
.
Southport
Tîm: Smith (Hibbert 46′), Smith, Lever, Grand, Owens, Parry, Whalley, Ledsham, Moogan (Almond 64′), Poku (Kay 31′), Hattersley
Cardiau Melyn: Moogan 9’, Parry 53’, Kay 67’
.
Casnewydd
Tîm: Pidgeley, Hughes, James, Anthony, Pipe, Minshull, Sandell, Jolley (Willmott 65′), Donnelly, Evans, O’Connor (Griffiths 84′)
Goliau: O’Connor 10’, Jolley 34’
Cardiau Melyn: Minshull 1’, Evans 14
.
Torf: 606