Cymru 1–2 Croatia
Torrwyd calonnau Cymru a chwalwyd unrhyw obeithion oedd gan dîm Chris Coleman o gyrraedd Brasil 2014 pan sgoriodd Croatia ddwywaith yn y chwarter awr olaf ar y Liberty nos Fawrth.
Rhoddodd Gareth Bale Gymru ar y blaen o’r smotyn yn hanner cyntaf y gêm ragbrofol yng Ngrŵp A, ond rhoddodd goliau hwyr Dejan Lovren ac Eduardo i’r ymwelwyr derfyn i obeithion y Dreigiau o gyrraedd Cwpan y Byd.
Croatia ac Eduardo a gafodd y cyfle cyntaf ond peniodd cyn flaenwr Arsenal yn syth at Glyn Myhill yn y gôl i Gymru.
Yn y pen arall roedd Cymru yn edrych yn fygythiol ac fe ddaeth cyfle euraidd iddynt fynd ar y blaen pan garlamodd Joe Ledley i mewn i’r cwrt cosbi cyn cael ei lorio gan Lovren. Cymerodd Bale y gic gan yrru Stipe Pletikosa y ffordd anghywir a rhwydo.
Cafodd Bale gyfle da i ddyblu’r fantais cyn yr egwyl hefyd ond saethodd y droed chwith sydd fel arfer mor ddibynadwy dros y trawst y tro hwn.
Roedd yr ymwelwyr dipyn gwell wedi’r egwyl ac Eduardo oedd y prif fygythiad o hyd gyda’r blaenwr yn penio heibio’r postyn yn gynnar yn yr ail gyfnod.
Yn y pen arall, daeth yr addawol Jonathan Williams yn agos gydag ergyd o ochr y cwrt cosbi yn dilyn symudiad da gan Gymru.
Yna, ar yr awr, fe gadwodd Myhill Gymru ar y blaen gydag arbediad anhygoel o ergyd Darijo Srna yn dilyn gwyriad ar yr eiliad olaf.
Ond er gwaethaf yr arbediad hwnnw, Myhill oedd ar fai pan unionodd Croatia ddeuddeg munud o’r diwedd. Roedd ergyd Lovren o bellter yn un dda ond dylai’r gôl-geidwad fod wedi gwneud yn well wrth i’r bêl hedfan trwy’i freichiau.
Ac wrth i’r cloc agosáu at y naw deg munud a Chymru yn anelu am bwynt haeddiannol yn erbyn un o dimau gorau’r byd, fe dorrwyd eu calonnau gan Eduardo. Cafodd yr ymosodwr ddigon o amser i reoli’r bêl yn y cwrt cosbi cyn taro foli trwy goesau Myhill.
Canlyniad braidd yn annheg ar Gymru o bosib ond canlyniad sy’n achosi iddynt ddisgyn i’r pedwerydd safle yng ngrŵp A yn dilyn buddugoliaeth gartref Serbia yn erbyn yr Alban.
Ymateb
Y rheolwr, Chris Coleman:
“Maen nhw’n dîm da, maen hawdd gweld pam eu bod nhw yn y deg uchaf yn y byd. Ac allwn ni ddim disgwyl dim mwy gan ein bois ni o ran ymdrech.”
“Mae timau da yn eich symud o amgylch y cae, ac os nad yw’r coesau gennych erbyn y diwedd mae hi’n anodd iawn, ac fe fanteision nhw ar hynny yn yr ail hanner.”
.
Cymru
Tîm: Myhill, Gunter, Davies, Collins, A. Williams, Ledley, J. Williams (Church 83′), Robson-Kanu (Richards 63′), King, Bale, Bellamy
Gôl: Bale [c.o.s.] 21’
Cerdyn Melyn: Robson-Kanu
.
Croataia
Tîm: Pletikosa, Strinic (Olic 73), Corluka, Lovren, Srna, Rakitic, Modric, Sammir (Kovacic – 61′), Badelj (Schildenfeld 45′), Mandzukic, Eduardo
Goliau: Lovren 78’, Eduardo 87’
Cardiau Melyn: Corluka 7’, Lovren 21’, Modric 66’, Kovacic 70
.
Torf: 12,500