Mae clwb rygbi Cymry Llundain wedi colli eu hapêl nhw yn erbyn cosb o bum pwynt cynghrair a dirwy o £15,000 am adael i chwaraewr gynrychioli’r clwb yn groes i’r rheolau.
Mae Prif Weithredwr y clwb, Tony Copsey,wedi mynegi ei siom ac wedi dweud mai’r chwaraewyr sy’n cael eu cosbi yn y pen draw “am rywbeth sydd y tu hwnt i’w rheolaeth.”
Mae cyn-reolwr y clwb, Mike Scott, wedi cyfaddef ffugio dogfennau er mwyn rhoi’r argraff fod y mewnwr Tyson Keats yn ddilys i chwarae, ac mae Scott wedi cael ei wahardd o rygbi am oes.
Dywedodd cadeirydd y panel apêl, Gareth Rees QC, fod amgylchiadau’r achos yn “eithriadol” ond bod rhaid “cydnabod yr effaith ar enw da’r gêm.”
O blaid achos Cymry Llundain dywedodd y panel apêl nad oedd modd rhagweld yr hyn a wnaeth Mike Scott a bod y clwb wedi ceisio datrys y sefyllfa ar ôl iddyn nhw wybod.
Mae gan Gymry Llundain bedair gêm yn weddill eleni a nhw yw’r ffefrynnau bellach i ddisgyn gan eu bod nhw ar waelod yr uwchgyngrhair, bum pwynt y tu ôl i Siarcod Sale.