Cyn-reolwr Clwb Pêl-droed Bangor, Nigel Adkins yw rheolwr newydd Reading.
Cafodd y newyddion ei gyhoeddi’n swyddogol y bore yma, ar ôl iddo arwyddo cytundeb tair blynedd i olynu Brian McDermott.
Collodd McDermott ei swydd fis diwethaf wrth i Reading frwydro i aros yn yr Uwch Gynghrair.
Roedd Adkins yn rheolwr ar Southampton ar ddechrau’r tymor, ond fe gollodd yntau’r swydd honno ym mis Ionawr.
Fe fydd y ddau dîm yn mynd benben â’i gilydd cyn diwedd y tymor.
Ond cyn hynny, fe fydd yn rhaid i Reading wynebu Arsenal ar eu tomen eu hunain yn Stadiwm Emirates.
Dywedodd Nigel Adkins: “Dw i ddim wedi gwneud sylw ers gadael Southampton ac rwy am achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb yno.
“Rwy’n diolch i’r cefnogwyr a’r chwaraewyr. Roedden ni ar daith wych ond rhaid i ni symud ymlaen nawr.
“Rwy’n falch i fod yn rheolwr ar Reading. Fe gymerwn ni bethau un gêm ar y tro a cheisio cadw’r clwb hwn yn yr Uwch Gynghrair.
“Mae’n glwb da, maen nhw wedi creu argraff arna i, ac rwy wedi gwybod erioed pa fath o glwb yw hwn.
“Rydyn ni yn yr Uwch Gynghrair ac rydyn ni am aros yno. Rwy wedi cyffroi.”