Luka Modric
Mae’n rhaid i Gymru ffrwyno Luka Modric heno medd Chris Coleman.
Mae Cymru wedi symud i’r trydydd safle yng ngrŵp A ers curo’r Alban nos Wener a byddai buddugoliaeth yn Abertawe yn erbyn Croatia yn rhoi llygedyn o obaith iddyn nhw hanner ffordd trwy’r gemau rhagbrofol ar gyfer Rio 2014.
Collodd Cymru o 2-0 i Groatia ym mis Hydref ac roedd Modric wedi creu argraff ar Coleman.
“Roedd e’n wych. Roedd wyneb y cae yn ofnadwy ac roedd e’n dal i greu ac yn newid cyfeiriad y chwarae,” meddai rheolwr Cymru.
“Ar ei ddydd mae’n anodd ei stopio fe, fel ein bachgen ni Gareth Bale.”
Gareth Bale yn arwyddo i BT
Mae sïon yn parhau y bydd Bale yn ymuno gyda Modric ym Madrid, ac mae’r ddau ymhlith y goreuon yn Ewrop medd Chris Coleman.
“Rwy’n credu fod Ronaldo a Messi ar y brig ac wedyn mae yna griw o chwaraewyr y tu ôl iddyn nhw, a Modric a Bale yn eu plith nhw,” meddai Coleman.
Mae BT Sport wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo Gareth Bale i fod yn byndit ar eu darllediadau Uwchgynghrair dros y tair blynedd nesaf.
“Rydym ni wrth ein boddau ar ôl llwyddo i wneud yr hyn byddai dwsinau o reolwyr yn dymuno gwneud – arwyddo Gareth Bale,” meddai pennaeth BT Sport, Simon Green.
Bydd seren Tottenham Hotspur a Chymru hefyd yn helpu i farchnata’r sianel newydd a fydd yn dechrau dros yr haf.