Mae clwb pêl-droed Llanelli wedi llwyddo i drechu’r  ymgais ddiweddaraf i ddirwyn y clwb i ben oherwydd ei broblemau ariannol cythryblus.

Cafodd cais i ddirwyn CPD Llanelli i ben ei gyflwyno yn yr Uchel Lys gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) heddiw oherwydd trafferthion ynglŷn â  bil sy’n ddyledus i’r swyddfa dreth.

Ond clywodd yr Uchel Lys bod dim cytundeb rhwng y clwb a’r swyddfa dreth ynglŷn â faint o arian sy’n ddyledus.

Mae’r clwb wedi gorfod brwydro yn erbyn sawl ymgais tebyg yn y misoedd diwethaf oherwydd y dyledion sydd ganddyn nhw.

Cafodd y clwb ei achub rhag cau fis Medi’r llynedd ar ôl talu dyledion, yna unwaith eto ym mis Tachwedd cyn y cais diweddaraf a gafodd ei gystadlu heddiw.