Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi cynnwys Owain Tudur Jones yn y garfan ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Croatia nos Fawrth.

Daw i mewn yn lle Aaron Ramsey sydd wedi ei wahardd ar ôl cael carden goch yn eiliadau olaf y fuddugoliaeth yn erbyn yr Alban.

Nid yw Owain Tudur Jones wedi chwarae dros Gymru ers dwy flynedd ac mae bellach yn ennill ei fara menyn gydag Inverness Caledonian Thistle, sy’n drydydd yn uwchgynghrair yr Alban.

Mae gan y chwaraewr 28 oed gyfle i ychwanegu at ei chwe chap yn y Liberty, sy’n stadiwm cyfarwydd iddo gan iddo dreulio bedwar tymor gydag Abertawe.

Brwydr y Balcanau

Curodd Croatia eu cymdogion Serbia 2-0 nos Wener ac mae un o sêr Croatia, Luka Modric, wedi dweud fod y tîm “wedi ymlâdd” ar ôl y gêm chwerw. Dyma oedd y tro cyntaf i’r ddwy wlad gwrdd ers y rhyfel yn y Balcanau yn y 1990au.

Dywedodd Modric ei fod wedi cadw mewn cysylltiad gyda Gareth Bale ar ôl i’r ddau fod yn gyd-chwaraewyr gyda Tottenham, ac mae sïon yn parhau y bydd Bale yn ymuno eto gyda Modric ym Madrid.

“Yn ffodus bydd Aaron Ramsey a Joe Allen ddim yn chwarae achos nhw yw’r chwaraewyr gorau ar ôl Bale,” meddai Modric.