Andy Morrell yn dathlu yn Wembley neithiwr
Wrecsam oedd enillwyr teilwng Tlws yr FA ddoe ar ôl gêm derfynol gyffrous yn erbyn Grimsby yn Wembley.

Wrecsam yw’r tîm cyntaf o Gymru i gipio’r tlws ac fe wnaethon nhw hynny drwy ennill ciciau o’r smotyn yn dilyn gêm gyfartal 1-1.

Roedd miloedd o gefnogwyr wedi teithio i Wembley ar gyfer y gêm er gwaetha’r tywydd garw.

Tra bod cefnogwyr Wrecsam yn dathlu tan oriau man y bore,  mae Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler AC, wedi llongyfarch y clwb ar eu buddugoliaeth.

“Da iawn i Andy Morrell a’r tîm,” meddai  Rosemary Butler.

“Mae hwn yn newyddion gwych ar gyfer y clwb a’r cefnogwyr, sydd wedi wynebu llawer o ansicrwydd ynghylch dyfodol y clwb yn ystod y blynyddoedd diwethaf.”

Roedd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones hefyd wedi bod yn trydar ar ôl y gêm gan ddweud ei fod yn “ddiwrnod bendigedig i bêl-droed yng Nghymru.”

“Perfformiad gwych” oedd barn cyn bêl-droediwr rhyngwladol Cymru, Robbie Savage.

Ond fe all y ddau dîm gyfarfod eto cyn diwedd y tymor pan fydd gemau ail-chwarae yn penderfynu pwy fydd yn ennill lle yn y gynghrair pêl-droed tymor nesa.

Petai hynny’n digwydd byddai Grimsby eisiau i’w golwr, James McKeown, gael gystal gêm ag y cafodd o ddoe i atal ergydiau Wrecsam rhag mynd mewn i’r rhwyd.

Dim ond un tîm oedd ynddi yn y diwedd a sgoriodd Adrian Cieslewicz, Danny Wright, Chris Westwood a Johnny Hunt gic o’r smotyn i Wrecsam tra mai Joe Colbeck oedd unig sgoriwr Grimsby.

Gol gyntaf i Grimsby

Ond Grimsby aeth ar y blaen yn gynharach yn y gêm. Rhedodd Colbeck i lawr yr asgell dde gydag ugain munud yn weddill cyn croesi i Andy Cook a lwyddodd i sgorio ar ei ail ergydiad  wedi iddo daro un o chwaraewyr Wrecsam gyda’r gyntaf.

Cafodd Wrecsam gyfle i ddod yn gyfartal gyda chic o’r smotyn a dim ond naw munud yn weddill pan gafodd Dean Keates ei dynnu i lawr gan Shaun Pearson. Llwyddodd Kevin Thornton i roi’r bêl yng nghefn y rhwyd.

Yn yr amser ychwanegol, roedd Cieslewicz yn chwarae’n wych i Wrecsam gan wneud i McKeown weithio rhwng pyst Grimsby. Ond erbyn y diwedd roedd Grimsby wedi blino’n fwy na thîm Andy Morrell, a’r bechgyn mewn coch oedd yn dathlu neithiwr.