Wrecsam 1–1 Grimsby

Cododd Wrecsam Dlws yr FA yn Wembley brynhawn Sul ar ôl curo Grimsby ar giciau o’r smotyn yn y rownd derfynol.

Y Dreigiau oedd y tîm gorau o gryn dipyn ond Grimsby aeth ar y blaen serch hynny hanner ffordd trwy’r ail hanner. Unionodd Kevin Thornton o’r smotyn i’r Cymry wedi hynny cyn i flerwch Grimsby o ddeuddeg llath roi buddugoliaeth haeddiannol i Wrecsam yn y diwedd.

Dechrau Diflas

Yr unig ddigwyddiad o bwys mewn hanner cyntaf di fflach llawn nerfusrwydd oedd tacl ddadleuol un capten ar y llall. Er i Craig Disley ennill y bêl i Grimsby yn y digwyddiad gyda Dean Keates, redd hi’n dacl wyllt gyda’r ddwy droed oddi ar y llawr, ond wnaeth y dyfarnwr ddim hyd yn oed dangos cerdyn melyn iddo.

Roedd hi fel gêm wahanol yn yr ail hanner a daeth y cyfle cyntaf i Andy Morrell wedi pum munud pan lithrodd James McKeown yn y gôl, ond llwyddodd y gôl-geidwad i adfer ei gam trwy arbed cynnig chwaraewr reolwr Wrecsam.

Cafodd Danny Wright gyfle da i’r Dreigiau yn fuan wedyn hefyd pan ddisgynnodd y bêl yn garedig iddo yn y cwrt chwech ond anelodd ei gynnig heibio’r postyn.

Roedd gan Wrecsam dros hanner can mlynedd o brofiad yn y llinell flaen rhwng Morrell, Wright a Brett Ormerod, ac Ormerod a gafodd y cyfle nesaf ond peniodd groesiad Johnny Hunt dros y tawst o bum llath.

Gôl o’r Diwedd

Cyrhaeddodd y gôl agoriadol o’r diwedd wedi 71 munud ond daeth yn erbyn llif y chwarae wrth i Andy Cook rwydo i Grimsby. Cafwyd gwaith da gan Joe Colbeck ar y dde i ddechrau cyn i Chris Maxwell arbed cynnig cyntaf Cook, ond sgoriodd yntau ar yr ail gyfle.

Roedd angen sbarc ar Wrecsam a daeth hwnnw oddi ar y fainc ar ffurf Adrian Cieslewicz. Creodd yr asgellwr argraff yn syth gan greu lle iddo’i hun yn y cwrt cosbi cyn taro ergyd isel a gafodd ei harbed yn dda gan McKeown ddeg munud o ddiwedd y naw deg.

Ac roedd y Pwyliad yn ei chanol hi eto ddau funud yn ddiweddarach yn rhedeg yn bwrpasol i’r cwrt cosbi cyn canfod ei gapten, Keates, a gafodd ei lorio gan Shaun Pearson. Dyfarnwyd cic o’r smotyn i’r Dreigiau a rhwydodd Thornton i orfodi amser ychwanegol.

Amser Ychwanegol

Cieslewicz oedd chwaraewr amlycaf y cyfnod ychwanegol hefyd a daeth yn agos ddwywaith tuag at ddiwedd y chwarter awr cyntaf.

Ceisiodd ei lwc gyda foli o ddeg llath ar hugain i ddechrau ond llwyddodd McKeown i arbed, a gwnaeth y gôl-geidwad yr un peth eto pan ddisgynnodd y bêl i eilydd Wrecsam yn y cwrt cosbi’n fuan wedyn.

Bu rhaid i McKeown fod ar flaenau’i draed yn eiliadau olaf yr ail hanner hefyd pan geisiodd Cieslewicz grymanu’r bêl i’r gornel uchaf a phan darodd Danny Wright foli tuag ato o ddeg llath.

Ciciau o’r smotyn

Doedd dim amdani ond ciciau o’r smotyn felly ac er gwaethaf perfformiad clodwiw McKeown rhwng y pyst am ddwy awr, fe lwyddodd Cieslewicz, Danny Wright, Chris Westwood a Hunt i’w guro o ddeuddeg llath.

Roedd Grimsby ar y llaw arall yn cael trafferth taro’r targed o gwbl gyda Sam Hatton yn taro’r postyn a Richard Brodie yn anelu dros y trawst. Colbeck oedd yr unig un i sgorio i’r Saeson wrth i’r Dreigiau ennill yn gymharol gyfforddus ond yn hollol haeddiannol yn y diwedd.

Ymateb

Y chwaraewr reolwr, Andy Morrell:

“Roedd y chwaraewyr yn anhygoel a’r cefnogwyr yn anhygoel hefyd. Roedd eu gôl-geidwad nhw yn wych, fe stopiodd o bob dim, doedden ni methu ei guro fo, ond yn ffodus i ni fe aeth y ciciau o’r smotyn o’n plaid ni.”

.

Wrecsam

Tîm: Maxwell, Stephen Wright, Riley, Harris, Danny Wright, Ormerod (Ogleby 77’), Morrell (Cieslewicz 61’), Keates, Hunt, Westwood, Thornton (Clarke 89’)

Gôl: Thornton [c.o.s.] 82’

Cerdyn Melyn: Riley 58’

.

Grimsby

Tîm: McKeown, Hatton, Thomas, Pearson, Miller, Colbeck, Disley, Artus, Cook, Hannah (Thanoj 60’), Marshall (Brodie 87’)

Gôl: Cook 71’