Dan Lydiate
Dywed Dan Lydiate ei fod wrth ei fodd o gael bod yn ôl ar y cae rygbi ar ôl chwarae yn hanner cyntaf gêm y Dreigiau yn erbyn y Gweilch neithiwr.
Dyma’r tro cyntaf iddo chwarae ers iddo dorri ei figwrn chwe mis yn ôl, anaf a amddifadodd y cefnwr o gyfle i chwarae yng ngemau pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Ac yntau’n un o sêr y Gamp Lawn y llynedd, mae’n dal i gael ei grybwyll fel aelod posibl o garfan taith y Llewod i Awstralia.
Ond mae’n sylweddoli y bydd hynny’n dipyn o gamp iddo, gydag ond pedair gêm ar ôl yn y tymor i wneud ei farc, a chystadleuaeth galed gan chwaraewyr fel Sam Warburton, Justin Tipuric, Chris Robshaw, Sean O’Brien, Tom Croft a Tom Wood am le ar y daith.
“Roedd hi’n braf bod yn ôl,” meddai. Ro’n i’n chwythu tipyn ac ro’n i’n falch o ddod oddi ar y cae hanner amser ond mae wedi bod bron yn chwe mis ers imi chwarae, ac fe wnes i wirioneddol fwynhau.
“Dw i’n hapus gyda sut aeth pethau a gobeithio y gallaf adeiladu ar hynny. Dw i ddim yn gyfan gwbl ffit eto, ond roedd yn hwb mawr i’m hyder i allu dod oddi ar y cae mewn un darn.
“Mae’n freuddwyd i unrhyw chwaraewr gael mynd ar daith y Llewod, ond dw i ddim yn canolbwyntio ar hynny ar hyn o bryd.”