Mae’r Scarlets yn dal yn y ras wrth geisio am le yng ngemau cyn-derfynol RaboDirect PRO12 ar ôl curo Zebre yn Stadio XXV Aprile yn Parma neithiwr.
Fe wnaeth y chwaraewr rhyngwladol Liam Williams a Joe Snyman sgorio cais yr un, gydag Owen Williams yn cyfrannu’r 14 pwynt arall gyda phedair cic gosb a throsiad.
Hon oedd 12fed buddugoliaeth y Scarlets yn eu hymgyrch, ond nid oedd yn ddigon i’w cadw nhw yn y pedwerydd safle wrth i’r Gweilch achub y blaen arnyn nhw yn eu buddugoliaeth ysgubol yn erbyn y Dreigiau.
Llwyddodd Dries van Schalkwyk a Giovanbattista Venditti i sgorio cais yr un i Zebre hefyd, ond wrth fethu ychwanegu at y sgôr, fe wnaethon nhw golli eu 18fed gêm yn olynol.
Zebre oedd y cyntaf i sgorio neithiwr, gyda chais ar ôl 13 munud gan Van Schalkwyk, ond roedd y Sgarlets ar y blaen 11-5 erbyn hanner amser gyda dwy gic gosb gan Owen Williams a chais gan Liam Williams.
Llwyddodd y Scarlets i gynyddu eu mantais yn yr ail hanner gyda 10 pwynt yn y saith munud cyntaf wrth i Owen Williams sgorio cic gosb arall a throsi cais gan Snyman. Gyda chic gosb yn fuan wedyn, cododd y sgôr i 24-5, er i Venditti sgorio ail gais dros Zebre ychydig cyn yr awr.
Ni fu’r Scarlets mewn unrhyw beryg o ildio’u mantais am weddill y gêm.