Mae’r Gweilch wedi symud i blith pedwar uchaf tabl RaboDirect Pro12 wrth i’w sêr rhyngwladol eu hysbrydoli i ennill buddugoliaeth saith cais yn erbyn y Dreigiau neithiwr.

Fe wnaeth ceisiau gan Kahn Fotuali’i, Tom Habberfield, Ashley Beck, Tom Isaacs, Dan Biggar, Dmitri Arhip a Justin Tipuric sicrhau pum pwynt i’r tîm cartref, gan eu rhoi ar y blaen i’r Scarlets.

Cipiodd Dan Biggar 13 o bwyntiau ychwanegol mewn trosiadau a chiciau cosb, ac fe wnaeth yr eilydd Matthew Morgan drosi’r ddau gais olaf.

Sgoriodd Dan Evans a Tony Faletau gais yr un i’r ymwelwyr, gyda Steffan Jones yn llwyddo gyda thair cic gosb.

Dyma’r grasfa waethaf erioed i’r Dreigiau yn erbyn y Gweilch.

Roedd tîm y Gweilch yn cynnwys pob un o’u chwe chwaraewr a oedd wedi helpu curo Lloegr yr wythnos ddiwethaf, wrth i Richard Hibbard, Adam Jones, Alun Wyn Jones, Ian Evans, Biggar a Tipuric ddychwelyd i fyd rygbi rhanbarthol.