Leigh Halfpenny - chwaraewr gorau'r chwe gwlad
Leigh Halfpenny sydd wedi’i enwi’n Chwaraewr Gorau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Cafodd ei ddewis gan gefnogwyr y gystadleuaeth ar wefannau cymdeithasol a byrddau trafod.
Daeth i’r brig ar ôl i restr fer o 15 chwaraewr gael ei llunio.
Sgoriodd y cefnwr 74 pwynt yn ystod y gystadleuaeth, wrth i Gymru gipio’r Bencampwriaeth.
Enillodd 40% o’r bleidlais, gan guro blaenasgellwr Yr Eidal, Alessandro Zanni a chefnwr Yr Alban, Stuart Hogg.
Bydd y wobr yn hwb i gefnwr y Gleision a Chymru, sy’n gobeithio gwisgo crys rhif 15 y Llewod yn Awstralia yn yr haf.
Mae’n olynu blaenasgellwr Cymru, Dan Lydiate, fel enillydd y wobr.
Dywedodd Leigh Halfpenny: “Alla i ddim diolch digon i’r bobol wnaeth bleidleisio drosof i.
“Mae hi wir yn fraint ac yn anrhydedd, ac rwy ar ben fy nigon o gael bod ymhlith y chwaraewyr ar y rhestr fer.
“Dyma’r eisin ar y gacen ar ddiwedd blwyddyn eithriadol i Gymru, ac mae’n fraint cael bod yn rhan o grŵp eithriadol o bobol.”
Dywedodd prif hyfforddwr dros dro Cymru, Rob Howley: “Mae Leigh yn eofn, yn ddewr ac yn un o’r cefnwyr gorau ym myd rygbi yn y byd. Gall e fod yn falch iawn o’i berfformiadau trwy gydol y bencampwriaeth.”