Ramsey -gol a charden goch
Yr Alban 1 Cymru 2

Dau funud yn y chwarter ola’ a newidiodd y gêm ym Mharc Hampden gan olygu bod Cymru’n dod yn ôl i guro’r Alban o 2-1 am yr ail waith.

Gyda’r Alban ar y blaen o 1-0 ac ychydig tros chwarter awr ar ôl, fe sgoriodd Aaron Ramsey o’r smotyn ac, o fewn llai na dau funud, roedd Robson-Kanu wedi cael yr ail.

Roedd yn ail-chwarae union bron o’r canlyniad yng Nghaerdydd yn yr hydref, gan gadw gobeithion gwan Cymru yn fyw o gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd ym Mrasil.

Maen nhw bellach yn drydydd gyda chwe phwynt – saith y tu ôl i arweinwyr y grŵp, Croatia, sy’n dod i Gaerdydd nos Fawrth ar ôl curo Serbia heddiw.

Yr unig ddau nam ar y fuddugoliaeth oedd fod y seren fwya’. Gareth Bale, wedi gorfod gadael y cae hanner amser a bod Ramsey ei hun wedi cael carden goch yn y munud ola’.

Y gêm

Cymru oedd wedi rheoli’r rhan fwya’ o’r hanner cynta’ gyda chwarae taclus a Ramsey’n arbennig yn rheoli canol y cae.

Ond roedd pas ola’ wael a diffyg miniogrwydd yn golygu na chawson nhw gôl na fawr mwy nag un neu ddau gyfle da.

Fe dalodd Cymru am hynny pan sgoriodd Grant Hanley gyda’i ben o gic gornel ym munud ola’r hanner cynta’.

Roedd yna deimlad y dylai Boaz Myhill yn y gôl neu’r amddiffynnwr canol, Sam Ricketts, fod wedi gwneud yn well.

Y trobwynt

Gyda Bale i ffwrdd efo anaf a’r chwaraewr 19 oed Jonathan Williams ymlaen i gael ei gap cynta’, yr Alban a ddechreudd yr ail hanner orau ac fe lwyddodd Snodgrass i daro’r postyn.

Ond Snodgrass oedd y dihiryn ar ôl 27  munud o’r hanner wrth lorio Chris Gunter yn y bocs, rhoi’r gic o’r smotyn i Aaron Ramsey a gorfod gadael y cae .

Gyda Williams yn creu argraff, fe drawodd Cymru eto yn erbyn y deg dyn – Williams yn dechrau’r symudiad, eilydd arall, Andy King, yn gwneud yn dda i groesi a Robson-Kanu’n cael ei gôl gynta’ i Gymru.

Dim ond carden goch Ramsey oedd ar ôl – fe gafodd ei ddal gyda’r bêl a thynnu un o chwaraewyr yr Alban yn ôl wrth iddo fynd am y gôl.

Mae’n golygu  y bydd Ramsey’n colli gêm Croatia ac fe fydd y dyfalu’n dechrau eto, a fydd Bale yn holliach.

Barn y sylwebwyr oedd y dylai Boaz Myhill  yn y gôl neu’r amddiffynnwr canol Sam Rickets fod wedi gwneud yn well.