Mae chwaraewr newydd y Gleision yn yr ail reng yn dechrau ei gêm gyntaf i’r rhanbarth yn erbyn Benetton Treviso yfory.

Bydd Filo Paulo yn chwarae yn yr ail reng gyda James Down.

Hefyd fe fydd y Gleision yn croesawu’r chwaraewyr rhyngwladol Lloyd Williams, Scott Andrews a Lou Reed yn ôl i’r garfan. Er hynny ni fydd Sam Warburton, Leigh Halfpenny, Jamie Roberts, Josh Navidi, Rhys Patchell, Alex Cuthbert na Andries Pretorius yn chwarae oherwydd anafiadau.

Bydd hon yn gêm anodd i’r Gleision gan fod Benetton Treviso ar rediad da, wrth guro Munster 34-10, a chael gêm gyfartal 29 pwynt yr un yn erbyn Ulster.

Un fuddugoliaeth sydd gan y Gleision yn eu pedair gêm ddiwethaf yn y Pro 12, a hynny o 17-16 yn erbyn Caeredin.

Tîm y Gleision

Olwyr – Jason Tovey, Owen Williams, Gavin Evans, Dafydd Hewitt, Chris Czekaj, Ceri Sweeney a Lloyd Williams.

Blaenwyr – Luke Hamilton, Rory Watts-Jones, Michael Paterson, James Down, Filo Paulo, Benoit Bourrust, Kristian Dacey a Taufa’ao Filise.

Eilyddion –  Marc Breeze, Sam Hobbs, Scott Andrews, Lou Reed, Thomas Young, Robin Copeland, Lewis Jones a Gareth Davies.