Mae capten tîm pêl-droed Cymru, Ashley Williams yn gobeithio y gall ei dîm efelychu’r tîm rygbi a chodi hwyliau’r genedl unwaith eto heno.
Gyda Chymru yn herio’r Alban ar Barc Hampden yn Glasgow heno, maen nhw’n gobeithio am fuddugoliaeth yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Pe baen nhw’n ennill, gallai Cymru symud i’r trydydd safle yng Ngrŵp A wrth iddyn nhw frwydro am le yng Nghwpan y Byd 2014 ym Mrasil.
Bois y rygbi yn ysbrydoli
Dywedodd Ashley Williams ei fod e wedi’i ysbrydoli gan y tîm rygbi cenedlaethol yr wythnos diwethaf, wrth iddyn nhw ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ôl curo Lloegr o 30-3 yng Nghaerdydd.
Fis yn ôl, roedd clwb Abertawe’n fuddugol yn rownd derfynol Cwpan Capital One yn Wembley.
Heno fydd y tro cyntaf i’r Alban gael eu harwain gan y rheolwr newydd, Gordon Strachan.
Dywedodd Ashley Williams: “Byddai’n braf cael cadw’r momentwm i fynd.
“Ro’n i’n meddwl am hynna y noson o’r blaen wrth wylio’r gêm rygbi unwaith eto (yn erbyn Lloegr).
“Roedd pawb dal yn byrlymu. Mae rygbi’n gamp enfawr yng Nghymru ac roedd yn ddiwrnod gwych i bawb.
“Byddai’n braf pe baen ni’n gallu cynnal hynna a dyna fyddwn ni’n ceisio’i wneud.
“Mae chwarae yn erbyn yr Alban yn rhoi rhywbeth ychwanegol ynddi yn ogystal â bod yn gêm rhwng dwy wlad ‘gartref’, ac fe fydd y ddwy wlad yn awyddus i ennill.”
Bydd dau o chwaraewyr ifanc Abertawe, Lee Lucas a Scott Tancock yn cynrychioli tîm dan 21 Cymru heno, wrth iddyn nhw herio Moldova ar Barc y Scarlets am le ym Mhencampwriaethau Ewrop dan 21 2015.