Rhidian Jones sy’n pendroni a ddylai rygbi Cymru ddal gafael ar eu sêr neu elwa’n ariannol drwy adael iddyn nhw fynd…

Ar ôl y fuddugoliaeth orau ers cyn cof a dyddiau o ddathlu cenedlaethol dyma ni nôl i drefn arferol rygbi Cymru – poeni bod seren arall yn gadael i chwarae dramor, neu i Northampton beth bynnag.

Mae gan Seintiau Northampton ddiddordeb mewn prynu George North ond ôl y sôn dyw e ddim eisiau gadael. Mae’r asgellwr wedi ei feithrin o fewn y rhanbarth ac mae hyfforddwr y Sgarlets Simon Easterby wedi dweud byddai colli George yn “drychineb.”

Ond mae peryg bydd pwysau arno i adael flwyddyn cyn i’w gytundeb ddod i ben. Byddai’r asiant yn elwa, a byddai’r Sgarlets – sy’n teimlo’r esgid yn gwasgu ers tro – hefyd yn elwa’n ariannol.

Arwr coll Bois y Sosban

Dyw cefnogwyr y Sgarlets heb weld llawer o’u harwr o Ynys Môn, rhwng gemau’r Chwe Gwlad, yr hydref, Cwpan y Byd 2011 a theithiau’r haf. Mae’r asgellwr Andy Fenby wedi sgorio mwy o geisiau dros y Sgarlets y tymor yma (14) nag y gwnaeth George North (12) erioed iddyn nhw.

Oes pwynt felly mewn cadw George pan allan nhw fod ar eu hennill o ryw £200,000 am ei adael i fynd yr haf yma? Bydd George ar daith y Llewod yn Awstralia dros yr haf a mae pawb yn gwybod faint o dreth yw honno ar gyrff y chwaraewyr. Prin fydd y Sgarlets yn ei weld e cyn mis Hydref ac yna daw gemau rhyngwladol mis Tachwedd. Diwedd Ionawr bydd e nôl yng ngharfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad, ac yn y cyfamser pwy a ŵyr a fydd e’n cario anafiadau.

Cafodd George ei anafu yng nghrys Cymru yn erbyn Fiji yn 2010, mynnodd Cymru ei gynnwys wedyn yn erbyn Seland Newydd pan ddylai fod yn gorffwys, a chollodd y Sgarlets e am dri mis achos roedd angen llawdriniaeth ar y crwtyn.

Yn aml iawn bwrn nid bendith yw cael chwaraewr rhyngwladol ar restr cyflog un o ranbarthau Cymru.

Neges wael pe bae’n gadael?

Ond, os yw’r Sgarlets yn caniatáu i’w seren fwyaf adael, ac yntau’n 20 oed, beth mae hynna’n ei ddweud am ddyhead y rhanbarth? Pa neges mae’n ei roi i chwaraewyr ifanc eraill y rhanbarth sydd yn ystyried p’un ai i ymestyn eu cytundeb gyda’r Sgarlets? Mae George North yn frodor o ranbarth draddodiadol y Sgarlets, yn gyn-fyfyriwr o Goleg Llanymddyfri a fe ddaeth e trwy’r academi. Os yw e’n cael ei ryddhau yna does bosib fod y llifddorau’n mynd i agor a man y man i ni ystyried y Sgarlets – a’r tri rhanbarth arall – yn glybiau meithrin ar gyfer mawrion Lloegr a Ffrainc. Mike Phillips, Dan Lydiate, Luke Charteris, Lee Byrne, James Hook, Craig Mitchell, Dwayne Peel ac yn y blaen ac yn y blaen.

Effaith ar Gymru

Caiff hyn effaith ar y tîm cenedlaethol, heb os. Mae peryg caiff y chwaraewyr eu llabyddio gan y clybiau yn Ffrainc, sydd â thymor hir, a chawn nhw ddim eu rhyddhau’n gynnar i ymarfer gyda Chymru gan gyrff megis y Premier Rugby yn Lloegr, sy’n amddiffyn buddiannau’r clybiau mawr yno.

Hefyd, bydd Undeb Rygbi Cymru ar ei golled achos byddan nhw methu hawlio arian parchus am hawliau darlledu achos cynghrair eilradd fydd y Pro12, a bydd yn well gan bobol Cymru weld y sêr mawr o Gymru yn chwarae ar y bocs yn y cynghreiriau tramor. A bydd llai yn prynu tocynnau tymor gyda rhanbarthau fel y Sgarlets achos fydd y sêr ddim ganddyn nhw. Mae tocynnau’n ddigon drud fel maen nhw heb fod angen di-brisio’r adloniant drwy amddifadu’r dorf o oreuon y gamp.

Er lles rygbi yng Nghymru mae angen i ni wneud ein gorau i gadw George North, a phob seren arall a ddaw ar ei ôl e.

Undeb – ewch i’ch poced!

Mae’n rhaid i’r undeb fynd i’w boced a chyfrannu mwy. Mae Undeb Rygbi Cymru yn elwa’n fawr ar gefn y gemau rhyngwladol ac yn ôl pob tebyg mae cyfrifon yr undeb yn iach, ac yn sicr yn iachach na’r pedwar rhanbarth. Maen nhw cyfrannu rhyw £6m y flwyddyn i’r pedwar rhanbarth ar hyn o bryd, sy’n arian mawr ond ddim yn ddigon i gystadlu gyda thimau eraill Ewrop a chadw chwaraewyr o’r radd flaenaf yng Nghymru.

Mae’n rhaid i ni gael rygbi o’r safon uchaf un yng Nghymru achos dyna ffenest siop y gêm yma. Fel arall bydd pobol yn troi at gampau ble allan nhw weld yr elît yn chwarae ar y penwythnos, fel sy’n digwydd eisoes yn Abertawe.

Y flwyddyn nesaf bydd gan Gymru ddau glwb yn brwydro (â’i gilydd yn fwy na dim!) yn uwchgynghrair Lloegr a bydd y sylw’n ddi-baid. Rhaid i rygbi ar lawr gwlad allu cystadlu gyda hynna achos mae mwy i’r gêm na gweiddi dros Gymru dan hat gowboi sgleiniog yn Stadiwm y Mileniwm nawr ac yn y man. No offence Rhian Madamrygbi.