Clwb Pêl-Droed West Ham yw tenantiaid newydd y Stadiwm Olympaidd yn Llundain.

Daeth cadarnhad ym mis Rhagfyr mai’r clwb o ddwyrain Llundain oedd yn cael ei ffafrio ar gyfer y cytundeb, ond roedd y trafodaethau wedi bod yn llusgo.

Ond daeth cyhoeddiad bore yma fod y clwb wedi arwyddo cytundeb newydd i fod yn denantiaid am gyfnod hyd at 99 o flynyddoedd.

Symud yno’n 2016

Mae disgwyl i’r stadiwm gael ei drawsnewid fel rhan o gynllun adnewyddu gwerth hyd at £150 miliwn, a gallai’r gwaith gael ei orffen yn barod ar gyfer tymor 2016-17.

Bydd 54,000 o seddau yn y stadiwm ar ôl i’r gwaith ddod i ben.

Mae’r clwb yn lansio ymgynghoriad gyda’r cefnogwyr yn dilyn y cyhoeddiad.

Dywedodd cyd-gadeiryddion West Ham, David Sullivan a David Gold: “Mae’n wych i bawb yn West Ham United fod gwaith caled y clwb dros y tair blynedd ddiwethaf, o’r diwedd, wedi talu ar ei ganfed.

“Ers i ni ddod i West Ham yn 2010, rydyn ni wedi cael gweledigaeth i symud y clwb ymlaen go iawn, fel y gall West Ham United gystadlu ar y cae ar y lefel uchaf.

“Mae’r penderfyniad heddiw yn cynnig llwyfan gwirioneddol i ni i wneud hyn ac rydym yn llwyr ymroddedig i wneud llwyddiant go iawn ohoni.

“Rydyn ni’n deall y cyfrifoldebau sy’n dod gyda galw’r Stadiwm Olympaidd eiconig y genedl, a gaiff ei drawsnewid yn stadiwm bêl-droed o safon fyd-eang, yn gartref newydd i ni.

“Mae’n fraint y byddwn ni’n ei derbyn gyda balchder.”