Alan Hutton v Gareth Bale

Mae’n siwr y bydd pob llygad ar Gareth Bale a wnaeth sgorio’r ddwy gôl yn y fuddugoliaeth yn erbyn yr Alban o 2-1 yng Nghaerdydd.  Os y bydd Bale yn chwarae mae’n debyg y bydd angen dipyn o gymorth ar amddiffynnwr Real Mallorca, Alan Hutton i’w rwystro.  Gall y frwydr hon fod yn allweddol i ganlyniad y gêm.

Charlie Adam v Aaron Ramsey

Bydd Adams yn chwarae yng nghanol y cae gan wynebu cyn-gapten Cymru.  Bydd hon yn gystadleuaeth a all gael dylanwad mawr ar y gêm.  Gall pasio treiddgar Adams reoli’r gêm i’r tîm cartref, ond bydd yn rhaid iddo gadw llygad gofalus ar allu a sgiliau llyfn Ramsey.

Steven Fletcher v James Collins

Mae’n debyg mai Fletcher fydd prif arf ymosodol Yr Alban er nad yw ar ei orau i Sunderland ar y funud ac ond wedi sgorio tair gôl mewn 14 o gemau.  Bydd Fletcher yn wynebu Collins sy’n chwaraewr cadarn, ac eto’n un sy’n rhwym o wneud rhyw gamgymeriadau anffodus pan yn chwarae yng nghrys Cymru.