Mae un o gefnogwyr mwya’ ffyddlon Wrecsam wedi aros yn hirach na’r rhan fwyaf o bobl i weld ei dîm yn cyrraedd Wembley.
Mae Tom Hughes yn 96 oed ac wedi gwylio’r tîm ers ei fod yn bump oed. Mae Mr Hughes ymhlith y 17,000 o gefnogwyr Wrecsam fydd yn teithio i Wembley i wylio’r tîm yn chwarae Grimsby yn rownd derfynol tlws yr FA ddydd Sul.
Pasti a phêl-droed
Fe welodd Tom Hughes Wrecsam yn chwarae gyntaf wrth fynd gyda’i dad a oedd yn gwerthu pastai ger y cae. Mae bellach yn gwylio’r gêm yng nghwmni tair cenhedlaeth o’r teulu.
‘‘Mae’n ddiwrnod arbennig ac yr wyf yn edrych ymlaen at y gêm,’’ meddai Mr Hughes.
Bydd Mike, mab Mr Hughes yn dychwelyd yn gynnar o’i wyliau yn Lanzarote er mwyn mynd gyda’i dad i Wembley.
Mae Neil Rogers, arweinydd cyngor Wrecsam wedi dymuno yn dda i’r tîm.
‘‘Mae Andy Morrell a’r chwaraewyr yn mwynhau tymor da, ac mae taith i Wembley yn wobr dda i bawb sydd wedi gweithio mor dda er budd y tîm. Mae’r dref i gyd yn teimlo’n well pan fydd y tîm pêl-droed yn gwneud yn dda,’’ meddai Rogers.
Dywedodd y chwaraewr/rheolwr Andy Morrell ei fod yn ddiwrnod arbennig i’r cefnogwyr ac fe dalodd deyrnged iddynt.
‘‘Fe fydd yn ddiwrnod arbennig ac mae’n gêm y bydd yn rhaid i ni ennill,’’ meddai Andy Morrell.
Mae Wrecsam yn gobeithio gwneud y dwbwl eleni wrth ennill y tlws a hefyd cael dyrchafiad i’r gynghrair.