Bydd y Scarlets yn yr Eidal heno yn herio Zebre yn y gystadleuaeth RaboDirect Pro12.  Mae Zebre wedi colli pob un o’u 23 o gemau ymhob cystadleuaeth y tymor hwn.  Y tro diwethaf i’r Scarlets golli yn y Pro12 oedd i Leinster ar 23 o Chwefror a hynny o 32-5.

Ar ô cael pythefnos heb rygbi rhanbarthol, dywedodd Prif hyfforddwr y Scarlets Simon Easterby bod yr ymarfer wedi mynd yn dda yr wythnos hon a bod y chwaraewyr yn llawn egni.

Bydd tri chwaraewr rhyngwladol yn dychwelyd i’r tîm heno, gyda Liam Williams yn symud i’r asgell a Gareth Owen yn dechrau fel cefnwr ar ôl gwella o’i anaf.  Bydd Aaron Shingler yn dechrau yn y rheng ôl gyda Jonathan Edwards a’r capten Rob McCusker.  Matthew Rees fydd y bachwr rhwng y ddau brop profiadol Phil John a Deacon Manu.

Aled Davies fydd yn gwisgo rhif naw gydag Owen Williams yn faswr.

‘‘Mi fydd yn wythnos dda o ymarfer ac fe ddaeth y chwaraewyr rhyngwladol yn ôl yn llawn egni yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr.  Mae’n rhaid i ni ennill y gemau nesaf er mwyn cadw’n gobeithion o orffen yn y pedwar safle uchaf,’’ meddai Easterby.

‘‘Er bod Zebre wedi colli llawer o’i gemau bydd yn rhaid i ni fel chwaraewyr a hyfforddwyr ganolbwyntio ar ein gwaith gan ei bod yn dîm cystadleuol iawn.  Mae’n edrych fel bod yna ddiwedd cyffrous i’r tymor ac mae’n rhaid i ni anelu am le yn y gemau ail-chwarae,’’ ychwanegodd Easterby.

Tîm y Scarlets

Olwyr – Gareth Owen, Liam Williams, Gareth Maule, Adam Warren, Andy Fenby, Owen Williams a Aled Davies.

Blaenwyr – Phil John, Matthew Rees, Deacon Manu, George Earle, Johan Synman, Aaron Shingler, Johnathan Edwards a Rob McCusker (Capten).

Eilyddion – Emyr Phillips, Rhodri Jones, Jacobie Adriaanse, Jake Ball, Sione Timani, Rhodri Williams a  Aled Thomas a Scott Williams.