Dywedodd Gordon Strachan, rheolwr yr Alban, ei fod yn dewis tîm y gall ymddiried ynddo wrth i’r Alban chwarae Cymru ar Barc Hampden heno mewn gêm ragbrofol ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd yn 2014.
Cafodd Strachan, a fu’n reolwr ar glybiau Southampton, Celtic a Middlesbrough, ddechrau da i’w yrfa fel rheolwr y tîm cenedlaetholwrth i’r Alban guro Estonia o 1-0 mewn gêm gyfeillgar fis Chwefror.
Fe wnaeth Cymru guro’r Alban 2-1 pan wnaeth y ddwy wlad gwrdd â’i gilydd yng Nghaerdydd ym mis Hydref. Mae’n debyg mai hwn fydd cyfle olaf yr Alban o gyrraedd Cwpan y Byd yn Rio gan eu bod ar waelod y grŵp ac ond wedi cael dau bwynt mewn pedair gêm a bydd yn rhaid iddynt deithio i chwarae Serbia yr wythnos nesaf.
‘‘Yr wyf wedi gwylio’r chwaraewyr yn ystod yr wythnos ac wedi mwynhau eu brwdfrydedd. Mi allwn ymddiried mewn 26 o chwaraewyr bydd yn rhaid dewis 11 i ddechrau,’’ dywedodd Strachan.
‘‘Os na fedrwch chwarae eich hunan bellach, nid oes dim yn well na gwylio chwaraewyr da yn chwarae. Mae’r chwaraewyr yn gwybod erbyn hyn beth yw’n cynlluniau wrth ymosod ac amddiffyn. Byddwn yn disgwyl iddynt wneud eu gorau o fewn y patrwm yr ydym wedi bod yn ymarfer drwy’r wythnos,’’ ychwanegodd Strachan.
‘‘Yr wyf yn edrych ymlaen am y gêm. Yr ydym wedi gwneud y gwaith ac yn edrych am fuddugoliaeth gan fod canlyniad da yn gwneud i bobl deimlo’n well. Byddwn yn edrych am fuddugoliaeth bob amser gan ein bod yn anifeiliaid cystadleuol,’’ meddai Strachan.