Mae trefnwyr ras seiclo’r Tour of Britain wedi cyhoeddi y bydd dau gymal yng Nghymru eleni.

Bydd un ar Ddydd Mercher, Medi 18 yn dechrau yn Stoke ac yn ymlwybro i Wrecsam, Rhuthun, a Betws y Coed cyn gorffen yn Llanberis.

Trannoeth bydd y ras yn dechrau ym Machynlleth ac yn teithio i Lanidloes, Llanfair-ym-Muallt, ac Aberhonddu cyn gorffen yng Nghaerffili am yr ail flwyddyn yn olynol.