Mae pencampwriaeth athletau ryngwladol ar gyfer pobol sydd ag anableddau yn mynd i gael ei chynnal yn Abertawe eleni.

Dyma’r tro cyntaf i bencampwriaeth Ewropeaidd yr IPC gael ei chynnal yng ngwledydd Prydain a dywed y trefnwyr eu bod nhw’n gobeithio adeiladu ar lwyddiant y Gemau Paralympaidd.

Prifysgol Abertawe fydd prif leoliad y Bencampwriaeth ym mis Awst.

Yn ôl prif hyfforddwr Athletau Paralympaidd Prydain, Paula Dunn, bydd y bencampwriaeth yn “rhan ganolog o’r paratoadau tuag at Rio 2016 a Llundain 2017”.

Dywedodd y Cynghorydd Nick Bradley, aelod o gabinet Cyngor Abertawe:

“Roedd Abertawe wedi cynnal timau paralympaidd Mecsico a Seland Newydd y llynedd cyn Gemau Paralympaidd Llundain ac roedd yr athletwyr, hyfforddwyr a’u teluoedd yn ganmoliaethus iawn o’n dinas ni.

“Bydd y Bencampwriaeth yn rhoi hwb i’r economi leol wrth ddenu miloedd o ymwelwyr ac yn cryfhau delwedd Abertawe fel dinas sy’n gallu denu a chynnal digwyddiadau chwaraeon mawr.”