Mae Llywodraeth Cymru wedi prynu maes awyr Caerdydd am £52m.
Roedd y Llywodraeth wedi cynnal proses ymchwil er mwyn edrych ar yr ystyriaethau ariannol, cyfreithiol a gwerth am arian o brynu’r maes awyr oddi wrth y cwmni o Sbaen, TBI.
Cafodd y broses ei chwblhau’n llwyddiannus meddai Carwyn Jones brynhawn yma ac mae’r maes awyr, sydd wedi profi cyfnod anodd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bellach yn nwylo Llywodraeth Cymru.
Uchelgais
“Dyma gyfle i ddatblygu cyfleuster a fydd yn gwbl allweddol ar gyfer busnesau, twristiaid a’r cyhoedd,” meddai Carwyn Jones
“Hyderaf y bydd yr Aelodau yn rhannu ein huchelgais i hybu economi Cymru drwy’r datblygiad hwn.”
Ym mis Ionawr roedd y Ceidwadwyr wedi mynegi pryder am wladoli’r maes awyr yn hytrach na’i adael mewn dwylo preifat, a heddiw mae Eluned Parrott o’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud fod angen i Lywodraeth Cymru ddatgelu ei chynlluniau ar gyfer adfywio’r maes awyr.
“Ni’n gwybod y pris a nawr mae angen i ni weld y sylwedd, a chynlluniau tymor hir y Llywodraeth ar gyfer denu cwmnïau hedfan, twristiaid a theithwyr busnes,” meddai Eluned Parrott.
Mae niferoedd teithwyr y maes awyr wedi bod yn gostwng ers i gwmnïau megis bmiBaby orffen hedfan yno, a phythefnos yn ôl cyhoeddodd Helvetic Airways o’r Swistir eu bod nhw’n rhoi gorau i hedfan o Gaerdydd.
‘Prosiect gwag sosialaidd’
Nid yw’r prynu wrth fodd llefarydd trafnidiaeth Ceidwadwyr Cymru, Byron Davies.
“Mae hwn yn gam tuag at ryw freuddwyd sosialaidd hen-ffasiwn ble mae popeth dan reolaeth y wladwriaeth,” meddai Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru.
“Rôl y llywodraeth yw darparu gwasanaethau cyhoeddus o’r radd flaenaf a chreu’r amodau ar gyfer twf economaidd, nid gwastraffu arian prin ar brynu meysydd awyr.
“Mae angen i Carwyn Jones esbonio sut y bydd perchnogaeth newydd yn gwneud unrhyw newid i’r modd mae’r maes awyr yn cael ei reoli, a rhaid iddo sicrhau’r cyhoedd nad yw hwn yn rhyw brosiect gwag sosialaidd.”
Ond mae Ffederasiwn y Busnesau Bach yn gobeithio y bydd y prynu yn dod â budd i fusnesau Cymru.
“Mae angen i unrhyw ddatblygiad gyd-fynd gyda gwelliannau go iawn yn y strwythur o amgylch y maes awyr, megis y ffyrdd a’r rheilffordd,” meddai Janet Jones, Cadeirydd polisi’r Ffederasiwn.
‘Allwn ni ddim cael rhagor o esgusodion’
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood ei fod yn bwysig i Lywodraeth Cymru ddangos ei bod wedi gwneud y penderfyniad iawn.
“Does dim rheswm pam na allai maes awyr cenedlaethol i Gymru mewn dwylo cyhoeddus fod yn fwy llwyddiannus o lawer nac y mae’r maes awyr fel y mae yn awr. Mater i Lywodraeth Cymru yn awr yw dangos eu bod wedi gwneud y penderfyniad iawn am y rhesymau iawn trwy gael y canlyniadau iawn.
“Allwn ni ddim cael rhagor o esgusodion. Maes Awyr Rhyngwladol Cymru yw Maes Awyr Caerdydd. Mae’n rhaid iddo adlewyrchu Cymru ar ei gorau, denu ymwelwyr a chwsmeriaid busnes yma i roi’r hwb y mae gymaint ei angen ar ein heconomi lleol.”