Mae cyn blismon a swyddog carchar wedi cael eu carcharu am werthu gwybodaeth i bapur newydd y Sun.
Cafodd y cyn-heddwas Alan Tierney o Surrey, a Richard Trunkfield, oedd yn gweithio yng ngharchar Woodhill ger Milton Keynes, eu dedfrydu yn yr Old Bailey.
Roedd Tierney, 40, wedi gwerthu manylion am fam y pêl-droediwr John Terry, a Ronnie Wood o’r Rolling Stones, a gafodd eu harestio mewn digwyddiadau ar wahân.
Roedd Trunkfield wedi gwerthu manylion am Jon Venables, un o’r ddau fu’n gyfrifol am lofruddio James Bulger.
Yn gynharach y mis hwn roedd Trunkfield a Tierney wedi cyfaddef camymddygiad mewn swydd gyhoeddus.
Ers hynny, mae Trunkfield wedi ymddiswyddo o garchar Woodhill ac nid yw Venables bellach yn cael ei gadw yno, clywodd y llys.
Cafodd Trunkfield ei ddedfrydu i 16 mis yn y carchar, a Tierney am 10 mis.
Roedd Trunkfield wedi derbyn £3,500 am wybodaeth gafodd ei roi i newyddiadurwr y Sun rhwng 2 Mawrth a 30 Ebrill 2010.
Fe dderbyniodd Tierney £1,250 am wybodaeth ynglŷn â Sue Terry a Ronnie Wood.