Mae ymchwiliad i gig ceffyl mewn byrgyrs gan gwmni o Bowys wedi dod i ben.

Roedd profion gan Gyngor Sir Powys ar dair sampl o gynnyrch y Burger Manufacturing Company o Lanelwedd wedi dangos ‘o leiaf 1% o gig ceffyl’ fis diwethaf.

Ond yn dilyn profion ychwanegol mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud fod lefel y cig ceffyl yn y samplau yn is na’r trothwy o 1%. Mae’r cwmni wedi dweud fod lefel y cig ceffyl yn cyfateb i “ronyn o halen” ac y dylai’r Asiantaeth fod wedi disgwyl cyn cael canlyniadau sicr.

Roedd cwmni Farmbox Meats o Landre yn un oedd wedi bod yn cyflenwi’r Burger Manufacturing Company. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi rhoi’r hawl i Farmbox Meats fasnachu eto tra bod y cwmni’n cwrdd â gofynion.