Mae 500 diwrnod tan y bydd wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol 2014 yn cychwyn yn Llanelli, ac ym mis Mehefin bydd yr ŵyl yn cael ei chyhoeddi’n swyddogol yng nghanol tref Caerfyrddin.

Methodd y brifwyl â dod o hyd i leoliad addas yn nyffryn Aman felly mae hi’n dychwelyd yn 2014 i’r un safle ag yn 2000, ym Mharc Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli.

Ymhen tri mis, ar Fehefin 29, bydd gorymdaith drwy ganol tref Caerfyrddin wrth i’r Orsedd a chynrychiolwyr  lleol wneud eu ffordd i’r Seremoni Gyhoeddi. Bryd hynny bydd yr Archdderwydd newydd, Christine James, yn derbyn y rhestr testunau gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol, Gethin Thomas.

“Dyma’r achlysur cyntaf i  ni ei nodi, a braf yw adrodd bod trigolion ardal yr Eisteddfod wedi gweithio’n eithriadol o galed yn barod gyda chefnogaeth eang o bob cwr o’r sir,” meddai Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards,

“Mae’r pwyllgorau lleol wedi cychwyn ar eu gwaith o godi proffil ac arian at y Gronfa Leol, ac mae’r gwaith o roi’r Rhestr Testunau at ei gilydd yn tynnu tua’r terfyn.  Rydym yn edrych ymlaen yn arw at y Cyhoeddi yn nhref Caerfyrddin ymhen tri mis, a gobeithio y bydd cannoedd o drigolion, sefydliadau a chymdeithasau lleol yn ymuno gyda’r Orsedd i orymdeithio drwy’r dref i ddathlu dyfodiad yr Eisteddfod i’r ardal.”

Iolo a’r Ivy Bush

“Mae hanes hir a diddorol i’r Eisteddfod yn ardal Sir Gaerfyrddin a byddwn yn cyhoeddi nifer o erthyglau dros y flwyddyn nesaf yn olrhain yr hanes yma ac yn edrych ar wahanol elfennau o’r Brifwyl yn yr ardal,” meddai Hywel Wyn Edwards, sy’n annog pobol i gysylltu â’r Eisteddfod gyda’u hatgofion nhw.

“Seremoni Cyhoeddi Sir Gâr fydd y tro cyntaf i’r Prifardd Christine weithredu fel Archdderwydd.  Hi yw’r ferch gyntaf a’r ddysgwraig gyntaf i’w hanrhydeddu fel Archdderwydd, ac mae’n amserol mai yn Sir Gaerfyrddin y digwydd hynny gan mai yn nhref Caerfyrddin y cychwynnodd y berthynas rhwng y Brifwyl a Gorsedd y Beirdd, a hynny yn 1819.

“Cynhaliwyd yr Eisteddfod honno yng Ngwesty’r Ivy Bush, a daeth Iolo Morganwg ei hun yno gan greu cylch bychan drwy ddefnyddio cerrig o’i boced yng ngerddi’r gwesty.

“Hwn oedd y Cylch yr Orsedd gwreiddiol a dyma weithred gyntaf Gorsedd y Beirdd fel rhan o’r Eisteddfod. “