Mae 27 o awduron wedi derbyn cyfanswm o £81,000 mewn Ysgoloriaethau i Awduron gan Lenyddiaeth Cymru.
Dyma’r nifer uchaf o Ysgoloriaethau a ddyfarnwyd erioed ac mae’r arian yn galluogi’r awduron i gymryd amser i ffwrdd o’u gwaith er mwyn ysgrifennu, neu’n cefnogi costau teithio ac ymchwil.
Mae 22 o’r awduron yn derbyn yr Ysgoloriaeth am y tro cyntaf, tra bod eraill wedi derbyn o’r blaen. Ymysg gwaith awduron 2013 bydd ffuglen, straeon byrion, barddoniaeth, a ffuglen i blant a phobl ifainc.
Bydd Ysgoloriaeth Awdur Newydd yn caniatáu i’r Prifardd Rhys Iorwerth, gymryd peth amser i ffwrdd o’i waith er mwyn canolbwyntio ar gwblhau ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, tra bydd Elidir Jones yn bwrw ati i gwblhau ei nofel gyntaf, ar gyfer pobl ifanc yn bennaf.
Hwb personol
Dywedodd Elidir Jones: “Yn ychwanegol at yr effaith gadarnhaol mae Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru yn eu cael ar ysgrifennu Cymraeg a Chymreig yn gyffredinol, mae derbyn un am y tro cyntaf hefyd yn hwb personol anferth.
“Fel rhywun sy’n ceisio ysgrifennu’n llawn-amser, mae’r Ysgoloriaeth wedi rhoi’r hunan-hyder a’r ysfa i mi barhau â’r gwaith, ac yn gwneud i mi deimlo’n rhan o rwydwaith ehangach o awduron.”
Bydd Delyth George yn canolbwyntio ar ddilyniant i’w nofel Gwe o Gelwyddau tra bod cerfluniau ar Wal AnifeiliaidCastell Caerdydd wedi tanio dychymyg Siân Melangell Dafydd sy’n bwriadu ysgrifennu casgliad o straeon byrion ar gyfer plant.
Bydd Myrddin ap Dafydd yn casglu deunydd ynghyd ar y thema “Baledi ar straeon o hanes Cymru” er mwyn cyhoeddi cyfrol i blant a phobl ifainc.
Ymhlith yr awduron sydd wedi derbyn Ysgoloriaethau ar gyfer eu gwaith Saesneg mae: Patrick Jones, Francesca Rhydderch, Angela Graham, Jeremy Hooker a Juliet Greenwood.
224 o awduron
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae cefnogi’r awdur yn ei yrfa yn elfen graidd o waith Llenyddiaeth Cymru. Ers 2004 rydym wedi dyfarnu dros £900,000 ar gyfer Ysgoloriaethau i Awduron, gan alluogi 224 o awduron i ddatblygu eu gwaith mewn ystod o genres.
“Dengys llwyddiannau nodedig megis Tair Rheol Anrhefn gan Daniel Davies ac Afallon gan Robat Gruffudd, ill dau yn enillwyr Gwobr Goffa Daniel Owen, bod y cynllun ysgoloriaethau yn dwyn ffrwyth.”
Ond nid yw llwyddiannau eisteddfodol enillwyr ysgoloriaeth wedi bod wrth fodd pawb. Yn 2011 mynegodd y darlledwr Gwilym Owen ei fod yn teimlo fod ysgoloriaeth yn galluogi awduron i “brynu’r amser i ysgrifennu” a rhoi mantais iddyn nhw dros gystadleuwyr eraill Gwobr Goffa Daniel Owen.