Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog rhieni i sicrhau bod eu plant yn derbyn y brechlyn MMR, wedi i achosion o’r frech goch godi i 252 yn ardal Abertawe.

Mae’r haint wedi effeithio plant  mewn 64 o ysgolion a meithrinfeydd yn ne orllewin Cymru, gyda 40 o achosion  newydd ers yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r GIG yn rhybuddio bod un o bob chwech sydd wedi eu heffeithio wedi gorfod cael  gofal meddygol yn yr ysbyty, ac maen nhw’n pryderu y gall achosion newydd o’r firws achosi niwed hirdymor.

Gall y frech goch achosi dallineb, niwed i’r ymennydd neu hyd yn oed marwolaeth, er bod achosion o hynny yn brin.

Mae’r frech goch yn lledu yn hawdd iawn, felly mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori rhieni sydd yn tybio bod gan eu plant y firws, i leihau cyswllt gyda phlant eraill.

‘Risg i unigolion sydd heb gael y brechlyn’

Dywedodd Dr Marion Lyons, cyfarwyddwr diogelwch iechyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae lledaeniad yr haint yn ardal Abertawe yn golygu mai ond mater o amser yw hi cyn bod plentyn yn dioddef yn ddifrifol oherwydd y frech goch.  Rydyn ni’n annog rhieni i blant sydd heb dderbyn y brechlyn i wneud trefniadau i ymweld â meddyg i’w dderbyn cyn gynted â phosib.

“Mae patrwm yr achosion sydd wedi digwydd yn awgrymu y bydd yr haint yn parhau hyd at fisoedd yr haf, ac mae’r risg i unigolion sydd heb gael brechiad yn cynyddu fel mae mwy o bobol yn dal y firws.  Mae’r brechlyn MMR yn ddiogel, yn syml ac yn effeithiol.”