Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones yn cyhoeddi newidiadau annisgwyl i’w gabinet heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r newidiadau ar ei chyfrif Twitter fesul un.

Dyma’r newidiadau:

Mae Mark Drakeford yn dod yn Weinidog Iechyd, tra bod Lesley Griffiths yn symud i fod yn Weinidog Llywodraeth Leol, portffolio a oedd yn cael ei ddal gan Carl Sargeant.

Mae Leighton Andrews yn parhau yn Weinidog Addysg ac yn gyfrifol am y Gymraeg tra bod Jeff Cuthbert yn parhau’n Ddirprwy Weinidog dros Sgiliau ac yn cymryd cyfrifoldeb dros Dechnoleg

Edwina Hart yw’r Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Mae hi felly’n cadw ei chyfrifoldeb dros yr economi a gwyddoniaeth ac yn cymryd hen gyfrifoldeb Carl Sargeant dros drafnidiaeth.

Mae Jane Hutt yn parhau’n Weinidog Cyllid ac yn ychwanegu Cyfathrebu at ei chyfrifoldebau.

Huw Lewis yw’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. Ei gyfrifoldeb yn y Cabinet cyn heddiw oedd Tai, Adfywio a Threftadaeth.

Mae Carl Sargeant wedi ei benodi’n Weinidog Tai ac Adfywio.

John Griffiths, y cyn-weinidog amgylchedd, yw’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon newydd.

Alun Davies yw’r Gweinidog newydd dros Gyfoeth Naturiol a Bwyd. Cyn heddiw roedd yn ddirprwy weinidog Amaeth.

Mae Gwenda Thomas yn aros yn Ddirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol.

Aelod Cynulliad Ogwr, Janice Gregory, yw Prif Chwip y Llywodraeth o hyd.

Mae’r AC Ceidwadol Antoinette Sandbach wedi dweud fod y broses o gyhoeddi fesul un ar Twitter “fel gwylio paent yn sychu” tra bod gohebydd BBC Cymru Vaughan Roderick yn cynnig fod yr ad-drefnu’n mynd i synnu ambell i Weinidog o ystyried bod cymaint ohonyn nhw i ffwrdd o Gaerdydd heddiw.

‘Datblygu’r economi’

Wrth ymateb i’r ad-drefnu heddiw  dywedodd Cadeirydd Uned Bolisi Cymreig Ffederasiwn y Busnesau Bach, Janet Jones: “Rydym yn gobeithio y bydd y llywodraeth yn defnyddio’r cyfle yma i roi pwyslais o’r newydd ar ddatblygu’r economi yng Nghymru.

“Mae angen ymdrech arbennig nawr i sicrhau bod creu swyddi a thwf , nid yn unig yn flaenoriaeth ond yn dod yn realiti i bobl Cymru.

“Mae’n eglur, ar sail perfformiad hanesyddol yr economi, bod angen gweithredu pendant a chyfeiriad clir.”