Tywysoges Lilian o Sweden
Mae Tywysoges Lilian o Sweden, gafodd ei geni a’i magu yn Abertawe, wedi marw yn ei chartref yn Stockolm. Roedd hi’n 97 mlwydd oed.

Roedd Lilian Davies wedi cwrdd â Thywysog Bertil o Sweden yn 1943. Ond roedd rhwymedigaethau’r tywysog i’r orsedd a statws Lilian fel person cyffredin, oedd wedi cael ysgariad, yn eu hatal rhag gwneud eu cariad yn gyhoeddus.

Fe gymerodd hi fwy na 30 mlynedd cyn iddyn nhw allu priodi a chydiodd y stori yng nghalonnau pobl Sweden.

Merch o Abertawe

Ganwyd Lilian Davies yn Abertawe yn 1915. Symudodd i Lundain yn 16 mlwydd oed i gychwyn ar yrfa fel model ac actores. Ond buasai ei bywyd wedi gallu cymryd trywydd tra gwahanol pan wnaeth hi briodi actor Prydeinig, Ivan Craig, yn 1940.

Ar ôl i’r Ail Ryfel Byd ddechrau, cafodd Ivan Craig ei ddrafftio i’r fyddin tra arhosodd Lilian yn Llundain.

Ar y pryd, roedd y Tywysog Bertil wedi ei leoli yn  Llysgenhadaeth Sweden yn Llundain ac fe wnaeth y ddau gyfarfod mewn clwb nos ychydig cyn pen-blwydd Lilian yn 28 yn 1943.

Roedd Lilian dal yn briod ar y pryd ond fe wnaeth ei gwr, Ivan Craig, hefyd gwrdd â rhywun arall pan oedd dramor gyda’r fyddin, ac fe ysgarodd y ddau.

Wedi i’r Tywysog Bertil ddychwelyd i Sweden fodd bynnag, daeth ei berthynas gyda merch gyffredin yn fater sensitif.

Daeth Bertil yn etifedd posibl i’r orsedd pan fu farw ei frawd hynaf mewn damwain awyren. Gorchmynnodd tad Bertil, Brenin Gustaf VI Adolf, iddo beidio priodi Lilian, gan y byddai hynny’n peryglu goroesiad llinach Bernadotte.

Caniatâd i briodi

Yn 1976, tua 33 mlynedd ar ôl iddyn nhw gyfarfod gyntaf, rhoddodd y brenin newydd – Brenin Carl XVI Gustaf – ganiatad iddyn nhw briodi o’r diwedd.

Priododd y ddau mewn seremoni yng Nghapel Palas Drottningholm y tu allan i Stockholm. Roedd y briodferch yn 61 a’r priodfab yn 64. Nid oedd ganddyn nhw blant.

Bu farw Tywysog Bertil yng nghartref y cwpl yn 1997 ar ôl problemau gyda’i ysgyfaint.