Iain Duncan Smith
Mae Iain Duncan Smith wedi herio honiadau gan arweinwyr yr Eglwys Anglicanaidd y bydd y newidiadau i fudd-daliadau yn effeithio plant waethaf.

Yn wyneb beirniadaeth hallt gan Archesgob newydd Caergaint, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau mai “tegwch” oedd wrth wraidd y newidiadau mae’n eu hargymell.

Mewn llythyr yn y Sunday Telegraph, sydd wedi ei arwyddo gan 43 o esgobion ac sydd wedi cael sêl bendith Archesgobion Caergaint  a Chaerefrog, maen nhw’n dweud y bydd cyfyngu ar godiadau mewn budd-daliadau i 1% yn arwain at ragor o blant yn byw mewn tlodi.

Ond dywedodd Iain Duncan Smith wrth ITV: “Mae hyn yn ymwneud a thegwch. Mae pobl sy’n talu eu trethi, ac yn gweithio’n galed, heb weld braidd dim cynnydd yn eu cyflogau, ac eto, o dan y Llywodraeth flaenorol mae cost budd-daliadau wedi cynyddu 60% i £200 biliwn. Mae’n golygu bod yn rhaid iddyn nhw dalu hynny drwy eu trethi, a dyw hynny ddim yn deg.”

Ychwanegodd bod hynny wedi arwain at filiynau o bobl yn ddibynnol ar y wladwriaeth.

“Beth sy’n foesol neu’n deg am hynny? Dyna fy her i i’r esgob,” meddai.

Ond mae Archesgob Caergaint Justin Welby wedi dweud mai “plant a theuluoedd fydd yn talu’r pris” os yw’r cynlluniau i newid y system yn cael eu cymeradwyo yn eu ffurf bresennol.