Bu farw dynes a chafodd chwech o bobl eraill eu hanafu, un yn ddifrifol, mewn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir Gaerfyrddin bnawn ddoe.
Digwyddodd y ddamwain rhwng Peugeot 206 a Kia Sportage ar yr A477 rhwng Rhos-goch a Llanteg, ddydd Sul am 5:25yh.
Roedd y ddynes 22 oed yn eistedd yn sedd flaen y Peugeot pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad. Cafodd ei chludo i’r ysbyty yn Abertawe ond bu farw’n ddiweddarach.
Mae teithiwr arall oedd yn y Peugeot mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Mae’n debyg nad yw’r teithwyr eraill wedi eu hanafu’n ddifrifol.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion – dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r uned blismona ffyrdd Caerfyrddin ar 101.