Athro Siwan Davies
Mae gwyddonydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill gwobr o bwys.

Mae’r Athro Siwan Davies wedi derbyn Gwobr Gronfa Lyell gan Gymdeithas Ddaearegol Llundain am ei gwaith ymchwil nodedig dros y deng mlynedd diwethaf.

Bydd yr Athro Davies o Adran Ddaearyddiaeth, Coleg Gwyddoniaeth y Brifysgol yn derbyn y wobr yn ogystal â siec o £500 yn ystod Diwrnod Llywydd y Gymdeithas ar 5 Mehefin.

Newid yn yr hinsawdd

Prif ffocws ymchwil yr Athro Davies yw ceisio darganfod pam bod newid mor ddramatig wedi bod yn yr hinsawdd dros 100,000 o flynyddoedd (hyd at 16°c o fewn degawdau).

Mae hi’n archwilio’r darnau o ludw folcanig sydd wedi’u dal mewn haenau iâ er mwyn dehongli ymateb y môr a’r atmosffer yn ystod y digwyddiadau newid hinsawdd gyflym yma er mwyn dod o hyd i’r hyn allai fod yn gyfrifol am achosi’r newid.

Mae hi newydd gwblhau prosiect tair blynedd a gafodd ei ariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol wnaeth ei galluogi i astudio creiddiau iâ ymhell o dan wyneb haen iâ yr Ynys Las.

O ganlyniad, cafodd ei gwaith ei gyhoeddi yn Nature, sef cyfnodolyn gwyddonol o bwys ac fe’i gwahoddwyd i gyflwyno darlith mewn cynhadledd ym Moston fis diwethaf.

Prosiect gwerth £1.2 miliwn

Ar hyn o bryd, mae hi’n arwain prosiect ymchwil uchelgeisiol gwerth £1.2 miliwn o’r enw TRACE, diolch i un o grantiau cychwynnol y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd a roddir i academyddion addawol yn Ewrop sydd â’r potensial o fod yn arweinwyr ymchwil o’r radd flaenaf.

‘‘Rydw i wrth fy modd o dderbyn y wobr hon,” meddai Siwan Davies. Mae’n anrhydedd o’r mwyaf ac rwy’n falch o dderbyn cydnabyddiaeth ond hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i’r tîm ym Mhrifysgol Abertawe yn ogystal â fy nghydweithwyr rhyngwladol am eu cyfraniadau gwerthfawr.’’