Manic Street Preachers
Bydd y Manic Street Preachers yn chwarae ym Mhrydain am y tro cyntaf ers dwy flynedd yng ngŵyl gerddorol Rhif 6 ym Mhortmeirion ym mis Medi.

Hon fydd yr unig ŵyl Brydeinig i’r band berfformio ynddi eleni a nhw fydd y prif atyniad ar un o dair noson yr ŵyl.

Yn 1998, cafodd y lluniau ar gyfer clawr eu pumed albwm, This Is My Truth Tell Me Yours, eu tynnu ar draeth Portmeirion ac mae’r ŵyl eleni’n digwydd ar bymthegfed pen-blwydd rhyddhau’r albwm.

Dywedodd y Manic Street Preachers: “Mae chwarae ym mhentref eiconig Syr Clough Williams-Ellis yn dipyn o freuddwyd i ni. Welwn ni chi ym mis Medi.”

Cafodd Gŵyl Rhif 6 ei enwi’n Ŵyl Newydd Orau yng Ngwobrau Gwyliau’r DU a’r  Ŵyl Fach orau yng ngwobrau’r NME.

Mae bandiau eraill sydd wedi cael eu cadarnhau hyd yma yn cynnwys James Blake, Everything Everything, I Am Kloot, AlunaGeorge, Laura Mvula, Mount Kimbie, Caitlin Rose, Chapel Club a Dutch Uncles.

Bydd Gŵyl Rhif 6 yn cael ei gynnal ym mhentref Portmeirion ger Porthmadog rhwng 13 a 15 Medi 2013.