Kenny Ball (llun o'i wefan swyddogol)
Mae’r trwmpedwr byd-enwog, Kenny Ball wedi marw yn 82 oed.

Daeth i’r amlwg ar raglen deledu Morecambe a Wise, cyn ffurfio ei fand ei hun, y Jazzmen.

Mae’n fwyaf adnabyddus am ei ganeuon Midnight in Moscow, March of the Siamese Children, The Green Leaves of Summer a Sukiyaki.

Perfformiodd gyda mawrion jazz eraill yn ystod ei yrfa, gan gynnwys George Melly a Humphrey Littleton, ac fe deithiodd gyda Louis Armstrong yn niwedd y 1960au.

Roedd i fod i roi cyngerdd yn Grantham nos yfory.