Mae’r cerddor Rhys Mwyn wedi galw dau o ddigwyddiadau cerddorol Cymru yn “ffars”.

Gwnaeth Rhys Mwyn ei sylw mewn erthygl yn yr Herald Cymraeg ddoe yn dilyn penwythnos pan gynhaliwyd Cân i Gymru yng Nghaerdydd a noson Wobrau’r Selar ym Mangor.

Yn ôl y cerddor ac archeolegydd, mae Cân i Gymru yn “parhau â’r ‘myth’ fod rhyw arwyddocâd a phwrpas i ennill y gystadleuaeth”.

Ac fe ofynnodd a oedd ffyrdd gwell o ddefnyddio arian cyhoeddus nag mewn noson wobrwyo fel un Selar yn ardal Bangor dros y Sul.

Meddai Rhys Mwyn

“Ar adeg pan fod Carwyn Jones yn sôn fod ei blant yn siarad Saesneg gyda’u ffrindiau ar fuarth yr ysgol Gymraeg onid gwell fyddai i Calon y Genedl a Selar fod wedi trefnu clamp o noson yn Nhreorci neu Shotton gyda llwythi o grwpiau Cymraeg a Chymreig a dwyieithog ac ella James o’r Manics a Cerys Matthews yno hefyd a gwneud y mymryn  lleiaf o wahaniaeth yn hytrach na parhau â’r myths di-bwrpas?”

Rhys Mwyn ddim yn awdurdod
Dywedodd Owian Schiavone, uwch-olygydd Y Selar a threfnydd noson wobrau’r Selar nad oedd yn poeni am sylwadau Rhys Mwyn.

“Dw i wir yn meddwl nad ydi Rhys Mwyn yn awdurdod ar unrhywbeth sy’n digwydd yn y sîn gyfoes Gymraeg erbyn hyn,” meddai. Roedd gwobrau’r Selar yn ddigwyddiad newydd sbon felly does dim sail a dim modd gwneud y sylw yna cyn i’r noson ddigwydd.

“Ac fel digwyddodd pethau, roedd o’n bell o fod yn ffars ac yn hwb i’w groesawu i’r sîn wedi cyfnod eitha caled. Dyna’r ymateb gafon ni ar, ac yn dilyn, y noson.

“Efallai nad ydan ni’n cyrraedd gymaint o bobl a fysan ni’n hoffi ond mae tystiolaeth yn dangos ein bod ni’n cyrraedd cynunlleidfa fawr. Mae fersiwn ar-lein y rhifyn diweddaraf wedi cael ei weld dros 800 o weithiau ers iddo fynd yn fyw ddydd Sul.”

Ymateb S4C

Dywedodd Comisiynydd Adloniant S4C, Gaynor Davies: “Mae gan Rhys bob hawl i’w farn – er bod y farn wedi’i ffurfio heb weld rhaglen nos Wener.

“Rydym yn gobeithio fod y fformat newydd eleni wedi profi fod gwaddol y gystadleuaeth yn ymestyn yn bellach i gerddorion a chyfansoddwyr sydd yn gweithio yn ddyddiol fel rhan o’r sin gerddoriaeth Gymraeg.

“Roedd cyffro noson Cân i Gymru 2013 wedi ymestyn yn bell.  Roedd y trafod dros Twitter wedi cyrraedd bron i hanner miliwn o bobl – gyda thros ddau filiwn o argraffiadau tudalen yn cael eu creu.”