Mae Aelod Seneddol wedi annog S4C i gyhoeddi adroddiad ar wariant cyhoeddus y sianel.

Dywedodd Guto Bebb, AS Ceidwadol Aberconwy, fod angen i’r sianel “fod mor agored ag y gallan nhw efo’u cynulleidfa”, ond bod y rheolwyr newydd yn “chwa o awyr iach”.

Dywedodd fod angen i’r adroddiad fod yn gyhoeddus er mwyn sicrhau nad oes gorwario neu wastraffu arian yn digwydd.

Byddai cyhoeddi’r adroddiad, medd Guto Bebb, yn “barhad o waith da tîm rheoli S4C”.

Cyhoeddodd prif weithredwr y sianel, Ian Jones, flwyddyn yn ôl ei fod yn bwriadu comisiynu’r adroddiad er mwyn archwilio i gyflogau a  thaliadau i weithwyr a chwmnïau.

Mae Cymdeithas Teledwyr Annibynnol Cymru, TAC, yn erbyn cyhoeddi’r wybodaeth.

Ymateb S4C

Dywedodd Cyfarwyddwr polisi Corfforaethol a Masnachol S4C, Elin Morris: “Fe gafodd adroddiad Mike Fegan ei ddrafftio gyda chydweithrediad cwmnïau preifat yn y sector cynhyrchu yn sgil addewid o gyfrinachedd oherwydd sensitifrwyddau masnachol.

“Ni fyddai’n briodol i dorri’r addewid hwnnw, yn enwedig o gofio na fyddai wedi bod yn bosib cwblhau’r adroddiad heb ewyllys da’r cwmnïau preifat.”

Y stori’n llawn yn rhifyn yr wythnos yma o gylchgrawn Golwg.