Bonnie Tyler
Fe fydd y gantores o Abertawe, Bonnie Tyler, yn cynrychioli’r DU yng nghystadleuaeth  Eurovision eleni.

Bydd y gantores, 61 oed, sy’n enwog am ganeuon fel Total Eclipse of the Heart a Lost In France, yn perfformio’r gan Believe in Me yn y gystadleuaeth ym Malmo, Sweden ar 18 Mai.

Dywedodd: “Rydw i wrth fy modd ac mae’n anrhydedd cael cynrychioli fy ngwlad yn Eurovision yn enwedig gyda chan mor wych.”