Bydd digwyddiadau dros Gymru heddiw i ddathlu Diwrnod y Llyfr ac mae un o fentrau Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ei gefnogaeth i weithgareddau mewn llyfrgelloedd dros Gymru.

Mae Diwrnod y Llyfr yn cael ei drefnu gan UNESCO i hybu darllen a chyhoeddi. Caiff ei ddathlu drwy gyfnewid llyfrau, gwisgo fel hoff gymeriadau a phob math o weithgareddau sy’n ymwneud â llyfrau.

Nod menter Newid Pethe Llywodraeth Cymru yw dod o hyd i ffyrdd newydd o rannu ein hamgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd a mannau hanesyddol gyda phobl ifanc a’u teuluoedd, yn arbennig y rheini sy’n dod o gefndiroedd llai breintiedig.

Mae’r fenter hefyd yn helpu asiantaethau cymorth a’r sector diwylliant i weithio hyd yn oed yn well gyda’i gilydd.

‘Gweithgareddau cyffrous’

I ddathlu Diwrnod y Llyfr gyda chefnogaeth gan y fenter, bydd gweithgareddau yn cael eu cynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Bydd y digwyddiadau yno’n rhad ac am ddim i o leiaf 12 ysgol o Bowys, Sir Gaerfyrddin a Gwynedd.

Dywedodd Angharad Tomos, Pennaeth yr Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, Cyngor Llyfrau Cymru: “Rydym wrth ein boddau gyda’r gefnogaeth ychwanegol hon gan Lywodraeth Cymru, trwy’r cynllun Newid Pethe.

“Mae’r digwyddiadau hyn, a gynhelir o gwmpas Diwrnod y Llyfr, yn ffordd wych o gysylltu â phlant a’u teuluoedd, a’r gobaith yw y byddant yn annog hoffter o ddarllen fydd yn para am oes.

“Mae’r arian ychwanegol wedi galluogi’r Llyfrgell Genedlaethol a Gwasanaethau Llyfrgell ledled Cymru i gynnig rhaglen o weithgareddau hwyliog a chyffrous, yn seiliedig ar lyfrau a darllen.

“Bydd disgyblion yn dysgu am y casgliad anhygoel o lyfrau a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol; cânt gyfle i weld y llyfr printiedig lleiaf yn y byd, sy’n mesur 1mm x 1mm; llyfrau ‘eliffant’ anferth, a chopi gwreiddiol o’r Beibl Cymraeg cyntaf un.

“Byddant hefyd yn cael gwybod mwy am rai o’r chwe miliwn o lyfrau sy’n ffurfio rhan o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol; byddant yn gweld llawysgrif o’r Oesoedd Canol, ac yn dysgu sut roedd llyfrau’n cael eu cynhyrchu cyn i’r wasg argraffu gael ei dyfeisio.”

Helfa lyfrau


Mae  Llenyddiaeth Cymru hefyd wedi ymuno yn hwyl y diwrnod wrth lapio a gosod cannoedd o barseli gyda llyfrau ynddyn nhw mewn llefydd amrywiol yng Nghaerdydd, Llanystumdwy a thu hwnt. Dywedodd Llenyddiaeth Cymru y bydd pob parsel gyda label fydd yn dweud “Darllena fi!”.