Bae Caerdydd
Bydd un o rasus hwylio mwya’r byd yn dod i Gymru am y tro cyntaf ymhen pedair blynedd.
Ras Hwylio Volvo yw prif ras hwylio o amgylch y byd a bydd Caerdydd yn croesawu’r ras sy’n cael ei chynnal am y trydydd tro a’r ddeg yn 2017/18, pan fydd y ras yn ymweld â’r DU am y tro cyntaf ers dros ddegawd.
Symudodd Ras Hwylio Volvo, a ddechreuodd yn Portsmouth fel Ras Whitbread o Gwmpas y Byd ym 1973, o Loegr i Alicante, Sbaen, yn 2010. Y tro diwethaf i’r ras ymweld â’r DU oedd yn Portsmouth yn 2005-06.
Gwnaeth Prif Swyddog Gweithredu’r Ras, Tom Touber, y datganiad mewn cyflwyniad yn yr Eglwys Norwyaidd ym Mae Caerdydd.
“Mae’n wych gallu cyhoeddi y bydd y ras unwaith eto yn pasio drwy ddyfroedd y DU, ac mae’r ffaith ei bod yn ymweld â Chaerdydd am y tro cyntaf yn gyffrous iawn”, dywedodd Touber.
“Mae’r gystadleuaeth i gynnal Ras Hwylio Volvo yn fwy tanbaid nag erioed, gyda dros 80 o borthladdoedd yn rhan o’r broses ar gyfer y 12fed a’r 13eg ras. Gwnaeth Caerdydd gyflwyniad trawiadol iawn i ennill un o’r lleoedd Ewropeaidd. A chyda’r fath gyfleusterau a brwdfrydedd ag y gwelwn yma, rwy’n siŵr y bydd yn ddigwyddiad i’w gofio.”
AC yn croesawu’r newyddion
Croesawyd y newyddion gan Weinidog Busnes Llywodraeth Cymru, Edwina Hart. Dywedodd: “Mae Ras Hwylio Volvo yn ddigwyddiad byd-eang, ac mae’r ffaith y bydd yn dod i Gaerdydd mewn ychydig flynyddoedd yn dangos yr enw da y mae Cymru wedi’i feithrin fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau o’r radd flaenaf.
“Mae Llywodraeth Cymru yn hollol ymrwymedig i ddenu mwy o ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol i Gymru.
“Bydd Ras Hwylio Volvo yn rhoi hwb economaidd sylweddol i Gaerdydd a Chymru. Edrychwn ymlaen at groesawu miloedd o ymwelwyr newydd i Gymru, a fydd yn mwynhau prifddinas a gwlad fywiog â threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ac amrywiol.”
Llwybr y ras 2014-15
Hyd yma, mae wyth porthladd wedi’u henwi ar y llwybr ar gyfer 12fed Ras Hwylio Volvo yn 2014-15, sef Alicante (Sbaen), Recife (Brasil), Abu Dhabi (Yr Emiraethau Arabaidd Unedig), Auckland (Seland Newydd), Itajaí (Brasil), Newport, Rhode Island (Yr Unol Daleithiau), Lisbon (Portiwgal) a Gothenburg (Sweden), lle bydd y ras yn dod i ben.
Bydd trefnwyr y ras yn enwi’r porthladdoedd eraill ar gyfer Ras 2014-15 dros yr ychydig wythnosau nesaf.