Mae cefnogwr pêl-droed wnaeth ffonio 999 i gwyno am y dyfarnwr yn ystod gêm Manchester United yn erbyn Real Madrid neithiwr wedi ymddiheuro wrth yr heddlu.
Roedd cefnogwr y cochion, sy’n 18 oed, adref yn gwylio’r gêm ar y teledu pan gafodd ei ffieiddio gan benderfyniad y dyfarnwr o Dwrci, Cuneyt Cakir, i anfon chwaraewr Manchester United, Nani, oddi ar y cae.
Penderfynodd ffonio’r gwasanaethau brys i honni bod “trosedd” wedi cael ei gyflawni.
Roedd y cefnogwr, sydd heb gael ei enwi, wedi ffonio’r heddlu o’i gartref ger Bingham yn Sir Nottingham.
Dywedodd Prif Arolygydd Heddlu Sir Nottingham, Ted Antill bod yr alwad yn esiampl o’r math o alwadau maen nhw’n gorfod delio gyda nhw bob dydd, sy’n gwastraffu amser yr heddlu.
Ond dywedodd, yn yr achos yma, bod y dyn wedi sylwi ar ei gamgymeriad ac wedi ymddiheuro ac oherwydd hynny ni fyddan nhw’n cymryd unrhyw gamau pellach.