Mae mewnwr y Gweilch, Kahn Fotuali’i, wedi cael ei ddewis i chwarae i’r Barbariaid yn erbyn y Llewod yn Hong Kong ym mis Mehefin.

Mae’r Barbariaid wedi datgelu y bydd y canolwr o Dde Affrica Jaque Fourie, y rheng ôl Imanol Harinordoquy o Ffrainc, yr wythwr Sergio Parisse a’r prop Martin Castrogiovanni o’r Eidal hefyd yng ngharfan y Barbariaid.

Mae Fotuali’i wedi mwynhau tymor gwych gyda’r Gweilch, ond dyma ei dymor olaf gyda’r rhanbarth wedi iddo arwyddo cytundeb gyda Northampton Saints yn barod i’r tymor nesaf.