Fe fydd asgellwr y Gleision, Harry Robinson yn gwneud ei ddechreuad cyntaf i Gymru dan 20 oed y tymor hwn  wrth i Gymru herio’r Alban yn Inverness nos Wener.

Ar ol cael ei ddewis i chwarae i’r tim cenedlaethol y llynedd yn erbyn y Barbariaid, fe diriodd Robinson gais yn ei ymddangosiad cyntaf yn y crys coch yn Stadiwm y Mileniwm.

Yn ymuno a Robinson  fydd wythwr y Dreigiau, Ieuan Jones, yn y rheng-ôl wedi iddo greu argraff yng nghynghrair RaboDirect Pro12.  Hefyd mi fydd Steffan Hughes o’r Scarlets yn safle’r canolwr.

Bydd Hallam Amos a Jack Dixon o’r Dreigiau ar y fainc, ond ni fydd y maswr y Gleision Rhys Patchell ar gael oherwydd anaf.