Robin McBryde
ae hyfforddwr blaenwyr tîm rygbi Cymru, Robin McBryde wedi dweud y bydd yn gobeithio gweld y blaenasgellwr Sam Warburton nôl ar ei orau yn erbyn yr Alban ddydd Sadwrn.
Mae Warburton yn dychwelyd i’r tîm ar draul Justin Tipuric, ond Ryan Jones fydd yn parhau yn gapten ar y tîm.
‘‘Mae Ryan wedi arwain y tîm i ddwy fuddugoliaeth, ac yn haeddu fod yn Gapten i Gymru i herio’r Alban.
“Rydym wedi sôn am fomentwm yn y gystadleuaeth hon, mae gennym ddwy fuddugoliaeth hyd yn hyn, ond hefyd mae’r Alban yn yr un sefyllfa. Mi fydd hi’n her i ni,’’ meddai hyfforddwr dros dro Cymru, Robert Howley.
Mae hyder y garfan yn uchel ar ôl buddugoliaethau yn erbyn Ffrainc a’r Eidal.