Poster dim ysgmygu Rebecca Ho
Fe fydd y maes chwarae di-fwg cynta’ yng Nghaerdydd yn cael ei agor yn swyddogol fory.
Erbyn diwedd mis Mawrth, fe fydd chwech o feysydd chwarae tebyg a’r bwriad yn y pen draw yw gwahardd ysmygu o bob lle chwarae yn y brifddinas.
Nod y gwaharddiad yw gwarchod plant rhag mwg ail law a chwalu’r syniad fod ysmygu’n beth arferol i’w wneud.
“Mae’n hynod o bwysig i blant allu mwynhau’r awyr iach wrth chwarae ym mharciau’r ddinas,” meddai’r Cynghorydd Huw Thomas sy’n gyfrifol am Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant ar gabinet Cyngor Dinas Caerdydd.
Gwaharddiad
Roedd Prif Weithredwr y mudiad gwrth-ysmygu ASH Cymru hefyd yn croesawu’r datblygiad yng Ngerddi Shelley yn ardal Plasnewydd.
“Gobeithio mai dyma fydd y cam cyntaf i wahardd ysmygu ym mhob maes chwarae ledled Caerdydd,” meddai Elen de Lacy.
“Yn ôl arolwg diweddar gan Yougov, mae 79% o’r cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi gwahardd ysmygu mewn meysydd chwarae.”
Y cefndir
Mae’r syniad yn rhan o Gynllun Rheoli Tybaco Cymru ac mae Cyngor y Ddinas a Thîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a’r Fro yn cydweithio arno.
Fe gafodd cystadleuaeth ei chynnal ymhlith plant ysgolion lleol i ddylunio arwydd di-fwg a’r enillydd oedd Rebecca Ho, 10 oed, o Ysgol Gynradd Albany.